Cofnodion:
Derbyniwyd y Datganiadau o Fuddiannau canlynol ar
ddechrau'r cyfarfod:
Y Cynghorydd Dennis Keogh - Parthed Cais Rhif
P2021/1268 – Bayview, Fernfield, Baglan gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd yn
bersonol - roedd yn ystyried hyn yn fuddiant rhagfarnol, a gadawodd y cyfarfod
a'r drafodaeth a'r pleidleisio ar hynny.
Y Cynghorydd Steve Hunt - Parthed Cais Rhif
P2021/0965 – Y Gampfa, Quay Road, Castell-nedd, gan ei fod yn adnabod yr
ymgeiswyr yn bersonol pan fuont yn byw yn ei ward - roedd yn ystyried hyn yn
fuddiant rhagfarnol, a gadawodd y cyfarfod a'r drafodaeth a'r pleidleisio ar
hynny.
Y Cynghorydd Chris Williams - Parthed Cais Rhif P2021/0965 – Y Gampfa, Quay Road,
Castell-nedd, gan ei fod yn adnabod yr ymgeisydd yn bersonol - roedd yn
ystyried hyn yn fuddiant rhagfarnol, a gadawodd y cyfarfod a'r drafodaeth a'r
pleidleisio ar hynny.