Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Clement-Williams, Aelod y
Cabinet dros Gyllid, yr adroddiad a gafodd ei argymell i'r cyngor gan y Cabinet
ar 28 Chwefror 2022. Tynnwyd sylw at y ffaith bod cyllideb eleni'n ddigyffelyb
gan fod gofyn i'r cyngor rewi Treth y Cyngor ar lefelau 2021/2022 am y tro
cyntaf ers ei sefydlu. Roedd y gyllideb hefyd yn cynnwys arian i wella
gwasanaethau hanfodol, ysgolion ac addysg. Yn ogystal, byddai 2.8 miliwn o
gronfeydd wrth gefn yn cael eu defnyddio i gefnogi buddsoddiadau adfer COVID-19
untro. Hefyd, cynyddu buddsoddiadau i wella golwg strydoedd a chymdogaethau a
gwasanaethau ieuenctid i helpu pobl ifanc Castell-nedd Port Talbot. Nodwyd bod
y sefyllfa ariannol gadarnhaol hon nid yn unig oherwydd y setliad ariannol a
gafwyd gan Lywodraeth Cymru ond oherwydd sut y rheolwyd cyllidebau
blaenorol. Diolchodd yr Aelodau i'r Prif
Swyddog Cyllid a gofynnwyd i'w gwerthfawrogiad gael ei rannu â'r Tîm Cyllid am
yr holl waith y maent wedi'i wneud i ddatblygu'r adroddiad cyllideb sy'n cael
ei ystyried yng ngyfarfod y cyngor heddiw.
Yn dilyn hynny, cafwyd trafodaeth ar y cynnig i
barhau â Threth y Cyngor ar lefelau 2021/2022. Holodd yr Aelodau a oedd unrhyw
gyfle i ostwng Treth y Cyngor 2.75% yn hytrach na'i rhewi ar lefelau 2021/2022,
wedi'i ariannu o gronfeydd cyffredinol wrth gefn. Mynegwyd pryder ynghylch
lefel yr amddifadedd ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a'r cynnydd
parhaus yng nghostau byw a'i effaith ar breswylwyr.
Atgoffwyd yr Aelodau o'r cynnig diweddar i
ddatblygu Cronfa Galedi Castell-nedd Port Talbot drwy neilltuo £2 filiwn o'r
gronfa wrth gefn gyda manylion y gronfa i'w datblygu a'u hadrodd yn ôl i'r
Aelodau eu hystyried yn y dyfodol.
Yn dilyn hynny, tynnwyd sylw at y ffaith na fyddai
unrhyw ostyngiad yn Nhreth y Cyngor a lleihau cronfeydd wrth gefn cyffredinol
yn ddoeth nac yn gynaliadwy yn y dyfodol.
Argymhellwyd diwygiad i'r cyngor a chafwyd cais am
bleidlais wedi'i chofnodi yn sgîl hyn, ar y diwygiad canlynol, a gafodd y
gefnogaeth angenrheidiol yn unol â gofynion Adran 14.5 o Ran 4 o Gyfansoddiad y
Cyngor – Rheolau Gweithdrefn.
Y bydd y swm cyfatebol ar gyfer Band D 2022/2023
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn £1,614.37 a bydd
gostyngiad o 2.75% yn Nhreth y Cyngor mewn cyferbyniad â'i rhewi o 2.75% fel y
nodir yn yr adroddiad gyda'r bwlch o 1.669% yn cael ei ariannu o'r gronfa
gyffredinol wrth gefn (sy'n cynrychioli swm o £1.669 miliwn ar gyfer
2022/2023).
O blaid y diwygiad:
Y
Cynghorwyr: |
S Bamsey, H C Clarke, N E Davies, R Davies, C Edwards, J Evans, W Griffiths, J Hale, S
Harris, N Hunt, S K Hunt, J Hurley, C James, H Jones, J Jones, S Jones, S
Knoyle, D Lewis, A Llewelyn, L M Purcell, A J Richards, M Spooner a C Williams. |
Yn erbyn y diwygiad:
Y
Cynghorwyr: |
A Aubrey, D Cawsey, C Clement-Williams, S Lynch,
A P H Davies, O Davies, S Freeguard, C Galsworthy, M Harvey, H N James, C J
Jones, D Jones, L C Jones, R G Jones, D Keogh, E V Latham, A R Lockyer, J
Miller, S Miller, S Paddison, S M Penry, M Protheroe, S Pursey, S Rahaman, P
A Rees, S Renkes, S Reynolds, P D Richards, A J Taylor, R L Taylor, D
Whitelock, A Wingrave, R W Coed ac A R Woolcock. |
Ymataliad:
Y Cynghorydd: J
D Morgan
Ddim yn bresennol ar gyfer y bleidlais:
Y Cynghorwyr: |
C M Crowley, R Mizen, D M Peters a R Phillips |
O ganlyniad i'r uchod, methodd y diwygiad a
dilynwyd cais am bleidlais wedi'i chofnodi, ar yr argymhelliad sylweddol a geir
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, a gafodd y gefnogaeth angenrheidiol yn unol â
gofynion Adran 14.5 o Ran 4 o Gyfansoddiad y Cyngor – Rheolau Gweithdrefn.
O blaid yr argymhelliad:
Y
Cynghorwyr: |
A Aubrey, D Cawsey, C Clement-Williams, S Lynch,
A P H Davies, O Davies, S Freeguard, C Galsworthy, M Harvey, H N James, C J
Jones, D Jones, L C Jones, R G Jones, D Keogh, E V Latham, A R Lockyer, J
Miller, S Miller, S Paddison, S M Penry, M Protheroe, S Pursey, S Rahaman, P
A Rees, S Renkes, S Reynolds, P D Richards, A J Taylor, R L Taylor, D
Whitelock, A Wingrave, R W Coed ac A R Woolcock. |
Yn erbyn yr argymhelliad:
Y
Cynghorwyr: |
S Bamsey, H C Clarke, N E Davies, R Davies, C
Edwards, J Evans, W Griffiths, J Hale, S Harris, N Hunt, S K Hunt, J Hurley,
C James, H Jones, J Jones, S Jones, S Knoyle, D Lewis, A Llewelyn, L M
Purcell, A J Richards, M Spooner a C Williams. |
Ymataliad:
Y Cynghorydd: J
D Morgan
Ddim yn bresennol ar gyfer y bleidlais:
Y Cynghorwyr: C M Crowley, R Mizen, D M Peters a
R Phillips
PENDERFYNWYD: |
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig: 1.Cymeradwyo buddsoddiadau Cyllideb Refeniw a
chynllun gwasanaeth y cyngor ar gyfer 2022/2023 fel y nodir yn Atodiad 1 a 2
i'r adroddiad a ddosbarthwyd. 2. Bod y £2.8 miliwn o'r gronfa
Yswiriant wrth gefn i'w defnyddio i gyflawni nifer o fuddsoddiadau untro i
gefnogi adferiad COVID-19 gan gynnwys recriwtio staff i gyflawni gwaith o
gwmpas y cynllun dechrau gorau mewn bywyd. 3. Rhoi awdurdod dirprwyedig
i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y
Cyngor, yr Aelod Cabinet perthnasol a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu
perthnasol: ·
Pennu ffïoedd a thaliadau
(ar gyfer swyddogaethau gweithredol) ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/2023. ·
Pennu ffïoedd a thaliadau
(ar gyfer swyddogaethau gweithredol) sy'n berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn
ariannol ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol, y mae
angen penderfynu arnynt cyn y flwyddyn ariannol am resymau gweithredol. 4. Rhoi awdurdod dirprwyedig
i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y
Cyngor, y Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd y Pwyllgor Anweithredol perthnasol
i: ·
Bennu Ffïoedd a Thaliadau ar
gyfer swyddogaethau (anweithredol) ar gyfer y flwyddyn 2022/2023. ·
Pennu ffïoedd a thaliadau
(ar gyfer swyddogaethau anweithredol) sy'n berthnasol ar gyfer unrhyw
flwyddyn ariannol ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol, y mae
angen eu pennu cyn y flwyddyn ariannol honno am resymau gweithredol. 5. Rhoi awdurdod dirprwyedig
i'r Prif Swyddog Cyllid, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr Arweinydd
ac Aelod y Cabinet dros Gyllid, i wneud unrhyw ddiwygiad sy'n angenrheidiol
drwy ddefnyddio cronfeydd wrth gefn cyffredinol, o ganlyniad i'r setliad
terfynol sy'n ddyledus ar 2 Mawrth 2022. 6. Na fydd cynnydd yn Nhreth y
Cyngor yn 2022/2023 gyda lefelau treth yn cael eu rhewi ar werthoedd
2021/2022. Bydd yr hyn sy'n cyfateb i Fand D 2022/2023 ar gyfer Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn parhau i fod yn £1,660.02. |
Dogfennau ategol: