Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Clement-Williams, Aelod y
Cabinet dros Gyllid, yr adroddiad a gafodd ei argymell i'r cyngor gan y Cabinet
a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2022.
PENDERFYNWYD:
1.
Bod unrhyw dreuliau a
ysgwyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wrth berfformio
mewn rhan o'i ardal yn cael eu trin fel treuliau cyffredinol yr awdurdod.
2.
Bod ardoll Awdurdod Iechyd
Porthladd Bae Abertawe yn cael ei thrin fel treuliau cyffredinol.
3.
Bod y symiau canlynol yn cael
eu cyfrifo'n unol ag Adrannau 32 i 36 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
|
Swm |
Cyfanswm yr eitemau a amcangyfrifwyd o dan Adran
32 (2) - gwariant |
£493,679,702 |
Cyfanswm yr eitemau a amcangyfrifwyd o dan adran
32 (3) - incwm |
£153,258,637 |
Swm a gyfrifwyd yn unol ag adran 32(4) – gofyniad
cyllidebol |
£340,421,065 |
Y cyfanswm sy'n daladwy mewn perthynas â'r Ardreth
Annomestig Genedlaethol a'r Grant Cynnal Refeniw a ailddosbarthwyd, yn cael
ei leihau'n unol ag Adran 33 (3B) o'r Ddeddf |
£257,681,000 |
Swm sylfaenol Treth y Cyngor yn unol ag Adran 33
(1) o'r Ddeddf |
£1,709.73 |
Cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeiriwyd
atynt yn adran 34(1) o'r Ddeddf. |
£2,405,588 |
Swm sylfaenol Treth y Cyngor ar gyfer anheddau yn
y rhannau hynny o'i ardal nad oes unrhyw eitem arbennig yn ymwneud â nhw, yn
unol ag Adran 34 (2) o'r Ddeddf |
£1,660.02 |
Symiau sylfaenol Treth y Cyngor ar gyfer anheddau
yn y rhannau hynny o'i ardal y mae bandiau eitemau arbennig yn ymwneud â hwy,
a gyfrifir yn unol ag adran 34(3) o'r Ddeddf |
Yn unol ag Atodiad 1 yr
adroddiad a ddosbarthwyd. |
Symiau i'w hystyried mewn perthynas â chategorïau
o anheddau a restrir mewn prisiad gwahanol, a gyfrifir yn unol ag Adran 36(1)
o'r Ddeddf. |
Yn unol ag Atodiad 2 o'r
adroddiad a ddosbarthwyd. |
4.
Bod Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
De Cymru wedi datgan y symiau canlynol mewn praesept a roddwyd i'r cyngor, yn
unol ag Adran 40 o'r Ddeddf.
Band A |
£201.41 |
Band B |
£234.97 |
Band C |
£268.54 |
Band D |
£302.11 |
Band E |
£369.25 |
Band F |
£436.38 |
Band G |
£503.52 |
Band H |
£604.22 |
Band I |
£704.92 |
Cyfanswm y
praesept sy'n daladwy yw £14,620,215.
5.
Ar ôl cyfrifo'r cyfansymiau ym
mhob achos uchod, mae'r cyngor, yn unol ag adran 30(2) o'r Ddeddf drwy hyn yn
pennu'r symiau a ddangosir yn Atodiad 3 fel Treth y Cyngor ar gyfer 2022/2023
ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau a ddangosir.
Dogfennau ategol: