Cofnodion:
Dywedodd y Dirprwy Faer fod ein meddyliau gyda
phobl Wcráin ar hyn o bryd a galwodd ar Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd E V
Latham, i wneud datganiad ar y cyd.
"Yng nghyfarfod diwethaf y cyngor, cafwyd
condemniad unfrydol o'r camau a gymerwyd gan Vladimir Putin a Llywodraeth Rwsia
ond hefyd gefnogaeth unfrydol i lywodraeth Wcráin a phobl Wcráin.
Byddwn i gyd wedi cael arswyd yn gwylio'r cynnydd
yn y rhyfel ers hynny.
Mae llawer o bobl wedi colli eu bywydau, eu
cartrefi a'u bywoliaeth. Mae graddfa'r argyfwng dyngarol sy'n datblygu yn
erchyll ac mae brys gwirioneddol i roi dulliau cefnogi ymarferol ar waith i'r
rheini sydd wedi cael eu dadleoli o'u cartrefi.
Rwy'n llwyr gefnogi ymrwymiad y Prif Weinidog y
dylai Cymru fod yn genedl noddfa ac i'r perwyl hwn mae swyddogion ac aelodau'r
cabinet wrthi'n ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i wneud paratoadau cyflym i
dderbyn ffoaduriaid o Wcráin.
Ddydd Llun yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth y
DU ddau lwybr fisa arbennig:
Llwybr Fisa Teuluol – mae hwn bellach ar agor ac yn
bôn mae'n darparu llwybr ar gyfer y ffoaduriaid hynny sydd â theulu sydd eisoes
yn byw yn y DU.
Yr ail lwybr yw'r cynllun Cartrefi i Wcráin – o
ddydd Llun yr wythnos hon, gall y rheini sydd â llety y gallant ei gynnig am o
leiaf chwe mis gofrestru eu diddordeb mewn cymryd rhan yn y cynllun.
Mae dwy is-elfen i'r rhaglen hon. Mae'r cyntaf ar
gyfer pobl sydd â llety sy'n adnabod pobl o Wcráin sy'n ceisio cefnogaeth a'r
ail fydd i'r bobl hynny sydd â llety ond nad oes ganddynt gysylltiad â pherson
o Wcráin sy'n ceisio cefnogaeth. Yn yr ail elfen, bydd gan gymdeithas ddinesig
- er enghraifft grwpiau eglwysi ac elusennau – rôl o ran paru rhywun sy'n
ceisio cefnogaeth â rhywun sy'n gallu darparu'r gefnogaeth honno.
Pan fydd cydweddiad rhwng rhywun
sy'n cynnig cefnogaeth a rhywun sy'n gofyn am gefnogaeth, mae'r porth digidol
yn darparu ar gyfer gwiriad cofnodion troseddol o'r ddau barti ac os yw hynny'n
foddhaol, caiff fisa ei chyflwyno. Bydd gan y rheini sydd â fisa yr hawl i gael
gafael ar arian cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus o'r pwynt lle maent yn
cyrraedd y DU. Bydd disgwyl i awdurdodau lleol wneud gwiriadau diogelu lleol i
sicrhau bod y llety'n addas ac yn y blaen.
Nid oes cymorth gyda chostau teithio yn y DU –
mater i'r ffoadur yw dod o hyd i'w ffordd i'r DU.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno mewn egwyddor â
Llywodraeth y DU y bydd yn dymuno gweithredu fel uwch-noddwr. Fel rhan o'r rôl
hon, byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio sefydlu nifer o ganolfannau derbyn cyn
ei bod yn anfon ffoaduriaid i rwydwaith llety.
Bydd awdurdodau lleol yn derbyn tariff o £10,500 y
ffoadur ym mlwyddyn un ond nid yw'r tariff ar gyfer blynyddoedd 2 a 3 wedi'i
bennu eto. Bwriad y cyllid hwn yw talu costau darparu gwasanaethau – er
enghraifft addysg i'r teuluoedd hynny sydd â phlant o oed ysgol.
Fel y bydd yr aelodau'n gwerthfawrogi, mae hwn yn
ddarlun sy'n datblygu'n gyflym iawn ac sy'n destun newid sylweddol. Mae'r Prif
Weithredwr wedi gofyn i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Mr Andrew
Jarrett, gydlynu cyfranogiad y cyngor hwn yn yr ymdrech ddyngarol. Bydd yn
sefydlu grŵp mewnol ar draws cyfarwyddiaethau i gydlynu ein hymateb
gwasanaeth ein hunain ac ail grŵp amlasiantaeth i gydlynu ymateb ehangach
y gymuned.
Yn dilyn y pandemig, pan fydd llawer o wasanaethau,
yn enwedig gofal, addysg a thai dan bwysau parhaus difrifol, bydd heriau o'n
blaenau. Fodd bynnag, byddwn yn gwneud popeth y gallwn i chwarae rhan lawn wrth
ymateb i'r argyfwng dyngarol hwn.
Yn ogystal â'r argyfwng dyngarol yr ydym yn ymateb
iddo, mae goblygiadau ehangach i ni. Roeddem eisoes yn
gweld yr argyfwng costau byw yn effeithio'n fawr ar ein preswylwyr a bydd y
costau ynni uwch a'r pwysau chwyddiant cysylltiedig yn dwysáu hyn. Mae'r Prif
Weithredwr yn cymryd camau i ddarganfod beth yw effeithiau ehangach hyn a sut y
gallwn ysgogi'r ymateb gorau. Wrth i ni symud i'r cyfnod cyn yr etholiad
bydd trefniadau'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod cyfathrebu rheolaidd
gydag aelodau etholedig fel ein bod yn gweithio'n gydlynol i gefnogi ein
cymunedau a'n busnesau lleol wrth sicrhau hefyd bod pobl o Wcráin yn dod o hyd
i hafan ddiogel a chefnogol yma yng Nghastell-nedd Port Talbot."
Nododd yr Aelodau y bydd y Prif Weithredwr yn
trefnu i'r briff uchod gael ei anfon drwy e-bost at bob aelod etholedig yn
dilyn y cyfarfod heddiw.
Cymeradwyodd y Cynghorwyr A Llewelyn, Arweinydd
Plaid Cymru ac S Jones, Arweinydd y Democratiaid Annibynnol y datganiad ar y
cyd.
Gofynnodd y Dirprwy Faer i'r cyngor ymuno ag ef i
longyfarch y Cynghorydd A R Aubrey a'i theulu ar enedigaeth ddiweddar ei merch,
Enfys.