Cofnodion:
Diolchodd yr
Aelodau i'r Prif Swyddog Cyllid a'r Tîm Cyllid am yr holl waith yr oeddent
wedi'i wneud wrth baratoi a chwblhau'r adroddiadau sy'n cael eu hystyried
heddiw.
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:
1.Cymeradwyo buddsoddiadau Cyllideb
Refeniw a chynllun gwasanaeth y cyngor ar gyfer 2022/2023 fel y nodir yn
Atodiad 1 a 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
2.Bod y £2.8 miliwn o'r gronfa
yswiriant wrth gefn i'w defnyddio i gyflawni nifer o fuddsoddiadau untro i
gefnogi adferiad COVID-19 gan gynnwys recriwtio staff i gyflawni gwaith o
gwmpas y cynllun dechrau gorau mewn bywyd.
3. Rhoi
awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol yn dilyn
ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yr Aelod Cabinet perthnasol a Chadeirydd y
Pwyllgor Craffu perthnasol:
·
Pennu ffïoedd a thaliadau (ar
gyfer swyddogaethau gweithredol) ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/2023.
·
Gosod Ffioedd a Thaliadau
(Gweithrediaeth) sy'n gymwys mewn unrhyw flwyddyn ariannol ddilynol a sydd, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol
perthnasol, angen ei osod cyn y flwyddyn ariannol am resymau gweithredol.
4.Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r
Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor,
y Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd y Pwyllgor Anweithredol perthnasol i:
·
Bennu Ffïoedd a Thaliadau ar
gyfer swyddogaethau (anweithredol) ar gyfer y flwyddyn 2022/2023.
·
Pennu ffïoedd a thaliadau (ar
gyfer swyddogaethau anweithredol) sy'n berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn
ariannol ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol, y mae angen eu pennu
cyn y flwyddyn ariannol honno am resymau gweithredol.
5.Mewn perthynas ag unrhyw amrywiad
rhwng setliad terfynol Llywodraeth Cymru a'r setliad dros dro. Rhoi awdurdod
dirprwyedig i'r Prif Swyddog Cyllid, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, yr
Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Gyllid, i wneud unrhyw ddiwygiad sy'n
angenrheidiol drwy ddefnyddio cronfeydd wrth gefn cyffredinol, o ganlyniad i'r
setliad terfynol sy'n ddyledus ar 2 Mawrth 2022.
6.Cymeradwyo'r cynnig o dim cynnydd
yn Nhreth y Cyngor yn 2022/2023 gyda lefelau treth yn cael eu rhewi ar
werthoedd 2021/2022. Bydd y cynnig i
gadw'r swm cyfatebol ar gyfer Band D Treth y Cyngor 2022/2023 Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn £1,660.02 yn cael ei argymell i'r
cyngor i'w gymeradwyo.
Rhesymau dros y Penderfyniadau:
I sicrhau
bod y cyngor yn cyflawni ei ofynion statudol i
benderfynu
ar y gyllideb ar gyfer 2022/2023.
Darparu mecanwaith ar gyfer ymdrin ag unrhyw amrywiad rhwng setliad dros
dro a therfynol Llywodraeth Cymru a chytuno ar drefniadau ar gyfer penderfynu
ar Ffioedd a Thaliadau.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y
penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl iddo gael ei ystyried a'i gymeradwyo
gan y cyngor yn ystod cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2022.
Ymgynghoriad:
Cynhaliwyd
ymgynghoriad rhwng 5 Ionawr a 1 Chwefror 2022 fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Dogfennau ategol: