Cofnodion:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:
1.Argymell y
Cynllun Corfforaethol ar gyfer y cyfnod 2022 - 2027;
2.Bydd y Prif Weithredwr yn cael
awdurdod dirprwyedig, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd i
wneud unrhyw newidiadau pellach sy'n angenrheidiol cyn cyhoeddi'r cynllun
terfynol ac nad ydynt yn newid cynnwys y cynllun yn sylweddol.
3. Argymell
y Cynllun Corfforaethol i'r cyngor i'w fabwysiadu.
Rhesymau
dros y Penderfyniadau:
I sicrhau
bod y cyngor yn cyflawni dyletswyddau cyfreithiol a nodir yn Neddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel y maent yn berthnasol â gweithgareddau
cynllunio corfforaethol y cyngor.
Rhoi'r
Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y
penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith wedi iddynt gael eu hystyried yng
nghyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2022.
Ymgynghoriad:
Mae'r
Cynllun a'r Rhaglen Newid Strategol drafft wedi cael ei lywio gan yr ymgyrch
Dewch i Siarad a gynhaliwyd rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2021 a mis Ionawr a
mis Chwefror 2022 a digwyddiadau ymgynghori ac ymgysylltu eraill fel y nodir yn
yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Dogfennau ategol: