Cofnodion:
Amlinellodd
swyddogion yr amserlen wedi'i diweddaru i sicrhau bod y pwyllgor yn ymwybodol
o'r rhaglen. Mae'r amserlen yn un uchelgeisiol a fydd yn canolbwyntio'n gyntaf
ar y sgiliau allweddol y bydd eu hangen ar aelodau yn dilyn yr etholiad, ac yna
bydd yn adeiladu ar y sgiliau hyn drwy gydol y flwyddyn.
Amlinellodd
swyddogion mai'r bwriad oedd cynnal yr holl hyfforddiant trwy fodel
hybrid. Bydd hyn yn caniatáu ar gyfer
hyblygrwydd o ran lleoliad er mwyn i bobl fod yn bresennol yn y cyfarfod.
Rhoddir ystyriaeth hefyd i recordio'r hyfforddiant ac yna bydd ar gael yn Members
Hub. Mae'r awdurdod hefyd yn gweithio gyda CLlLC, sy'n dylunio adnoddau y
bydd aelodau'n gallu eu defnyddio fel hyfforddiant parhaus. Bydd y rhain yn
cynnwys meysydd megis craffu, diogelu data etc.
Soniodd yr
aelodau am Restr Safleoedd Ymgeisiol y Cynllun Datblygu Lleol a oedd ar ddod, a
chaiff ei hystyried yn fuan wedi'r etholiad. Dymunodd aelodau sicrhau bod
aelodau'n derbyn cyfle cynnar ar gyfer hyfforddiant i sicrhau y gellir ystyried
yr eitem hon yn briodol gan aelodau.
Cododd yr aelodau
bryderon am fynediad i Siambr y Cyngor o ran unrhyw anableddau ac a oes gan y
siambr yr hyn y mae ei angen ar gyfer yr holl aelodau. Dywedodd swyddogion, fel
rhan o'r Rhaglen Sefydlu, cynhelir arolwg hygyrchedd i sicrhau y tynnir sylw ar
unrhyw eitemau perthnasol a gellir rhoi darpariaeth ar waith i ymateb i'r
rhain.
Gofynnodd aelodau
i ni archwilio system gyfeillio ar gyfer aelodau newydd yn dilyn yr etholiad.
Dywedodd swyddogion fod hyn yn cael ei hystyried ar hyn o bryd ac yn ogystal â
hyn roedd yn cael ei harchwilio o safbwynt swyddog. Mae'r ddarpariaeth i gael
Swyddog Gwasanaethau Democrataidd penodol ar waith fel pwynt cyswllt cyntaf i
aelodau ag unrhyw ymholiadau'n cael ei hystyried.
Nododd Bwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Sefydlu Aelodau a'r Amserlen ar gyfer
Etholiadau Llywodraeth Leol 2022.
Dogfennau ategol: