Caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer datblygu unedau diwydiannol ysgafn a swyddfeydd (Dosbarth defnydd B1,B2 a B8) ynghyd ag isadeiledd cysylltiedig ar dir gerllaw The Towers Hotel, Ashleigh Terrace, Jersey Marine
Cofnodion:
(Ar y pwynt hwn o'r cyfarfod, ailddatganodd y
Cynghorydd C Williams ei fuddiant, gan adael y cyfarfod a'r drafodaeth a'r
pleidleisio am hynny.)
Rhoddodd swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor
Cynllunio ar y cais hwn (Caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer datblygu unedau
diwydiannol a swyddfeydd (Defnydd dosbarth B1, B2 a B8), yn ogystal ag
isadeiledd cysylltiedig ar dir gerllaw gwesty The Towers, Ashleigh Terrace,
Jersey Marine), fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
PENDERFYNWYD: |
Cymeradwyo Cais Rhif P2019/5560, yn unol ag
argymhellion swyddogion. |
Dogfennau ategol: