Cofnodion:
Ailddatganodd y Cyng. S Rahaman a'r
Cyng. S Freeguard eu buddiannau a gadawsant y cyfarfod.
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad
Effaith Integredig caiff y ceisiadau canlynol i Gronfa Gymunedol yr Aelodau eu
cymeradwyo:
1.
Cais gan y Cynghorwyr R Wood, S
Paddison ac O S Davies i sefydlu cyfleuster chwarae'r blynyddoedd cynnar yn Nhir
Morfa, Gorllewin Sandfields, fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd.
2.
Cais gan y Cynghorydd D Lewis i
sefydlu cynllun chwaraemynediad
agored yn lleoliad cymunedol ‘Building
Blocks’ yn Resolfen fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad a gylchredwyd.
3.
Cais gan y Cynghorwyr J D Morgan,
S Knoyle ac R Lewis i ehangu prosiect Gweithwyr Clwstwr Cwm Nedd Uchaf, fel y
nodwyd yn Atodiad C
i'r
adroddiad a gylchredwyd.
4.
Cais gan y Cynghorydd H C Clarke
i ychwanegu goleuadau cyhoeddus yng Elba Crescent/Fabian Way yng Ngorllewin
Coedffranc, fel y nodwyd yn Atodiad D i'r adroddiad a gylchredwyd.
5.
Cais gan y Cynghorwyr S Rahaman,
S Freeguard a D Keogh i ddarparu System Trin/Tynnu Aer i Fosg a Chanolfan
Islamaidd Port Talbot, fel y nodwyd yn Atodiad E i'r adroddiad a gylchredwyd.
6.
Cais gan y Cynghorydd J Hurley i
gynorthwyo Clwb Rygbi Pont-rhyd-y-fen i foderneiddio'u cyfleusterau newid a
chael cawod ym Mhelenna, fel y nodwyd yn Atodiad F i'r adroddiad a gylchredwyd.
7.
Cais gan y Cynghorwyr S Rahaman,
S Freeguard a D Keogh i ddatblygu murlun celf gyhoeddus mawr yng nghanol tref
Port Talbot, fel y nodwyd yn Atodiad G i'r adroddiad a gylchredwyd.
Rhesymau dros y Penderfyniadau:
Galluogi ceisiadau am gyllid o
Gronfa Gymunedol yr Aelodau i gael eu cymeradwyo.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi
ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn 3 diwrnod sy'n dod i ben am 9am ddydd Sul,
13 Chwefror 2022. Ni dderbyniwyd unrhyw
alwadau i mewn.
Dogfennau ategol: