Agenda item

Deddf Tai (Cymru) 2014 - Ystyried Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr Castell-nedd Port Talbot

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, cytunir ar fethodoleg a chanfyddiadau'r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (2022) fel y'u nodir yn Atodiad 1.

 

2.           Bod awdurdod yn cael ei roi i gyflwyno'r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (2022) i Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio ag Adran 103 Deddf Tai (Cymru) 2014; Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2023; Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015); Deddf Cydraddoldeb (2010); a Pholisi Cynllunio Cymru 11 (2021)

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau sy'n dod i ben am 9am ddydd Sul, 13 Rhagfyr 2022.  Ni dderbyniwyd unrhyw alwadau i mewn.

 

Dogfennau ategol: