Cofnodion:
Derbyniwyd y cwestiwn
canlynol o dan Reol 9.2 o Reolau Gweithdrefnau'r cyngor.
"Yn dilyn
penderfyniad Llywodraeth Prydain i wrthod gŵyl banc yng Nghymru ar gyfer
Dydd Gŵyl Dewi, a fydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ystyried dilyn
esiampl Cyngor Gwynedd a chreu gŵyl banc de facto i staff y cyngor a rhoi
amser o’r gwaith yn lle tâl i'r rheini sy'n gwneud gwasanaethau hanfodol? A
fydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot a'i arweinyddiaeth hefyd yn ystyried dilyn
Cyngor Caerffili wrth lobïo llywodraethau Cymru a'r DU i sicrhau bod y
pŵer hwn yn cael ei ddatganoli, gan sicrhau cydraddoldeb ar draws yr
Ynysoedd hyn?"
Ymatebodd y Cynghorydd
D Jones, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Chydraddoldeb, drwy gadarnhau
bod ymrwymiad clir wedi'i wneud yng Nghynllun Corfforaethol y cyngor i
gynyddu'r ffocws a roddir ar dreftadaeth a diwylliant ac i sicrhau y gallai
cenedlaethau'r dyfodol fwynhau'r Iaith Gymraeg a thraddodiadau Cymreig.
Gofynnwyd i swyddogion
roi cyngor manwl ar y cynnig i greu gŵyl banc i staff y cyngor, a fyddai'n
cynnwys dysgu gan Gyngor Gwynedd.
Yn ogystal, byddai
ceisiadau'n cael eu gwneud yn ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU yn gofyn i'r pwerau i bennu gwyliau banc gael eu datganoli i Lywodraeth
Cymru.