Cofnodion:
PENDERFYNWYD: |
1) Ar gyfer unrhyw faterion y mae angen i'r Cabinet neu Fyrddau'r Cabinet
neu unrhyw Bwyllgor neu Is-bwyllgor arall y cyngor benderfynu arnynt fel
arfer, ac sydd ym marn y Prif Weithredwr, neu Gyfarwyddwr Corfforaethol neu
Bennaeth Gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol i benderfyniad gael ei wneud yn
ystod y cyfnod rhwng 5 Mai a 31 Mai 2022, bydd gan y Swyddog(ion)
hwnnw(hynny), mewn perthynas â materion o fewn ei(eu) swyddogaethau
gwasanaeth, bŵer dirprwyedig i wneud penderfyniad ac awdurdodi unrhyw gamau
gweithredu ar y materion dan sylw, yn amodol ar y canlynol: (a) mae'n rhaid i unrhyw benderfyniadau a wneir gydymffurfio â fformat
adrodd arferol, gan gynnwys datganiad cydymffurfio a rheswm dros
benderfyniad, heblaw am y cânt eu rhoi ar waith ar unwaith heb unrhyw ofyniad
galw i mewn; b) adroddir yn ôl wrth Aelodau am bob penderfyniad c) ni fydd y ddirprwyaeth hon yn cynnwys unrhyw benderfyniad ar geisiadau
cynllunio a benderfynir fel arfer gan y Pwyllgor Cynllunio, oni bai fod y
Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd yn ystyried ei fod yn fater brys yng
nghyd-destun amserlenni statudol; ac ni fydd ychwaith yn cynnwys
penderfyniadau ar unrhyw faterion cynllunio yr ystyrir eu bod yn
"ddadleuol" ym marn y Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd. Y
Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd fydd yn penderfynu ar unrhyw geisiadau
cynllunio yr ymdrinnir â hwy o dan y ddirprwyaeth hon ch) wrth arfer y pwerau dirprwyedig uchod, bydd yn ofynnol i Swyddogion
ymgynghori â thri Aelod fel a ganlyn: i) Rhwng 6 Mai a 17 Mai –
y Maer neu'r Dirprwy Faer presennol a dau Aelod arall o wahanol Grwpiau
Gwleidyddol (gan gynnwys un o unrhyw Grŵp Mwyafrif); ii) Rhwng 17 Mai a 31 Mai
- yr Arweinydd neu'r Dirprwy Arweinydd sydd newydd ei ethol (neu yn eu
habsenoldeb y Maer neu'r Dirprwy Faer sydd newydd ei ethol) a dau Aelod arall
o wahanol Grwpiau Gwleidyddol (gan gynnwys un o unrhyw Grŵp Mwyafrif).
Ar yr amod, yn y ddau achos, fod y grwpiau hyn wedi’u sefydlu. 2) Rhoddir awdurdod i'r Maer neu'r Dirprwy Faer fod yn bresennol wrth i
dendrau gael eu hagor yn ystod y cyfnod a nodir yn argymhelliad 1(a) uchod
a'r Arweinydd neu'r Dirprwy Arweinydd (neu yn eu habsenoldeb, y Maer neu'r
Dirprwy Faer) yn ystod y cyfnod a nodir yn (1(ch)(ii) uchod. |
Dogfennau ategol: