Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd P A Rees, Aelod y Cabinet
dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant yr adroddiad a gafodd ei gymeradwyo i'r
cyngor gan Fwrdd Addysg, Sgiliau a Diwylliant y Cabinet a gynhaliwyd ar 19
Ionawr 2022.
Nododd yr Aelodau mai nod Llywodraeth Cymru oedd
cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i filiwn erbyn 2050. Roedd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
(WESP) drafft Castell-nedd Port Talbot yn manylu ar y gwaith o gefnogi a
datblygu addysg Gymraeg ymhellach mewn ysgolion ac yn y cymunedau ehangach.
Datblygwyd y cynllun drafft drwy ymgynghori cynhwysfawr ag ystod eang o
randdeiliaid a oedd yn rhan hanfodol o'r gwaith o baratoi'r cynllun. Diolchodd Aelod y Cabinet dros Addysg,
Sgiliau a Diwylliant i'r swyddogion a phawb a fu'n ymwneud â datblygu'r
cynllun.
Croesawodd yr Aelodau'r adroddiad gan nodi’u
cefnogaeth am Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ond mynegwyd pryder
ynghylch y cyhoeddiad diweddar y byddai Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal
ymchwiliad gorfodi safonau i ad-drefniant Ysgolion Cwm Tawe ac a ddylid dileu'r
adran honno yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg nes bod canlyniadau'r
ymchwiliad yn hysbys.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu
Gydol Oes fod y Cynllun wedi'i ddatblygu gan bartneriaid strategol allweddol a
bod cydberchnogaeth y cynllun strategol allweddol yn bwysig iawn. Roedd y ddogfen wedi'i chymeradwyo gan Fforwm
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg a Bwrdd
Addysg, Sgiliau a Diwylliant y Cabinet yn dilyn ystyriaeth a chefnogaeth
gan y Pwyllgor Craffu. Esboniwyd hefyd, pe bai'r cynllun yn cael ei gyflwyno
fel y'i cyhoeddwyd yn yr agenda, heb unrhyw ddiwygiadau, y byddai cyfle o hyd i
gael ei ddiwygio, gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Gweinidogion Cymru, yn
dilyn canlyniad yr ymchwiliad.
Cafwyd eglurhad hefyd fod yr ymchwiliad gorfodi
safonau i ad-drefniant Ysgol Cwm Tawe o ganlyniad i gŵyn a dderbyniwyd gan
Gomisiynydd y Gymraeg i'r broses.
Eglurodd swyddogion fod yr ymholiadau a godwyd gan
Aelodau wedi'u trafod yn Fforwm Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, ac i
ddechrau roedd y drafft cyntaf yn dilyn canllawiau cyffredinol gan Lywodraeth
Cymru i gynnwys atodiad yn amlinellu'r ffactorau lliniarol a ystyriwyd mewn
perthynas â Chwm Tawe. Cytunwyd wedyn, fodd bynnag, i ddileu hyn gan y byddai
ei gynnwys yn tynnu oddi ar y pwysigrwydd a'r camau cadarnhaol i'w cymryd dros
y 10 mlynedd nesaf gan Gastell-nedd Port Talbot fel sir, a byddai'n
canolbwyntio ar un ardal benodol. Yn dilyn trafodaeth yn y Fforwm, a'i
Is-Fforymau, cytunwyd i ddiwygio Atodiad A i'r adroddiad fel ei fod yn ymwneud
â phob maes o fewn yr awdurdod, gan gynnwys ychwanegu targedau i ddiogelu holl
feysydd sensitifrwydd ieithyddol, a ffactorau lliniaru arfaethedig i'w cyflwyno
ar draws yr awdurdod cyfan.
Yn dilyn y drafodaeth, derbyniwyd diwygiad fel y
nodir isod a'i roi gerbron y Cyngor fel a ganlyn:
"Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r ymatebion i'r
ymgynghoriad, argymhellir bod aelodau'n caniatáu cyflwyno Cynllun Strategol y
Gymraeg mewn Addysg drafft i Weinidogion Cymru yn amodol ar ddileu'r adran sy'n
ymwneud â Chwm Tawe a mesurau lliniaru Cwm Tawe wrth aros am ganlyniad
ymchwiliad Comisiynydd y Gymraeg a fersiwn wedi'i diweddaru a ddarperir ar yr
adeg honno."
Methodd y diwygiad uchod, ac o ganlyniad, ystyriwyd
y prif argymhelliad a gafwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
PENDERFYNWYD: |
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r ymatebion i'r
ymgynghoriad, y dylid cymeradwyo
cyflwyno Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg drafft 2022-2032 i
Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo. |
Dogfennau ategol: