Cofnodion:
Gwahoddodd y Maer y
cyngor i ymuno ag ef i longyfarch P.C. Anne Overton, Heddlu De Cymru, a
oedd wedi derbyn Medal fawreddog Heddlu'r Frenhines am wasanaeth nodedig yn
Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd. Bu'n swyddog troseddau casineb yn ardal
Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ers 2018.
Llongyfarchodd y Maer Dr Edward Morgan Roberts
(Dirprwy Raglaw) ymhellach, gan iddo gael ei wneud yn Aelod o Urdd yr
Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i feddygaeth ac i'r gymuned yn Abertawe a
Chastell-nedd Port Talbot.