Cofnodion:
Nodwyd mai hwn oedd cam cyntaf y prosiect ar hyn o
bryd ac nad oedd amserlenni pendant ynghylch pryd y byddai'r ddeddfwriaeth yn
cael ei rhoi ar waith, a'r diwygiadau'n cael eu gwneud, ond y byddai gwaith gan
Lywodraeth Cymru yn parhau yn 2022.
Gofynnwyd am eglurder ynghylch anhysbysrwydd
tystion, a nododd yr Aelodau na fyddai unrhyw unigolion yn cael eu henwi yn yr
hysbysiadau penderfynu.
Trafodwyd arweiniad i Aelodau Etholedig ar
gyfryngau cymdeithasol, a nodwyd bod 2 elfen o hyfforddiant yn cael eu rhoi i
Aelodau newydd ar hyn o bryd – materion 'Gweithredol' (hyfforddiant cyfryngau
cymdeithasol cyffredinol) a 'Chôd Ymddygiad'.
PENDERFYNWYD: Nodi cam
cyntaf Adolygiad Annibynnol y Fframwaith Safonau Moesegol yng Nghymru.
Dogfennau ategol: