Cofnodion:
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cais y Cynghorwyr Cymuned Sonia
Reynolds a Sarah Thomas am oddefeb ar y telerau a nodir isod, a bod y cais am
oddefeb yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Safonau sy'n dilyn cyfarfod blynyddol
2022.
“I siarad a
phleidleisio ar faterion sy'n ymwneud â busnes Canolfan Maerdy yng Nghyngor
Cymunedol Gwauncaegurwen ar yr amod:
(a)
nad ydynt yn rhoi mantais neu anfantais
ariannol uniongyrchol i Aelod neu deulu’r aelod nac yn nac yn cynnig mantais
neu anfantais uniongyrchol arall i Aelod neu deulu'r aelod
(b)
nad yw'n ymwneud â chais am grant neu
ystyriaeth o gontract rhwng Canolfan Maerdy a'r Cyngor Cymunedol
(c)
ac na fydd yr oddefeb hon yn berthnasol mewn
amgylchiadau lle gallai aelod o’r cyhoedd ddod i’r casgliad rhesymol y byddai rôl
ymddiriedolwr yn effeithio’n sylweddol ar allu’r cynghorydd i weithredu ar
rinweddau’r achos yn unig ac er budd y cyhoedd."
Dogfennau ategol: