Cofnodion:
PENDERFYNWYD: |
Ar
ôl rhoi sylw dyledus i sgrinio'r Asesiad Effaith Integredig, y dylid cytuno
ar y canlynol mewn perthynas â sefydlu Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar
gyfer blwyddyn ariannol 2022/23: (a)
Mabwysiadu
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig
(Cymru) 2013 fel y'u diwygiwyd ymhellach gan Reoliadau Cynlluniau
Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru)
(Diwygio) 2022 ac unrhyw ddiwygiadau dilynol a all fod yn ofynnol gan
ddeddfwriaeth mewn perthynas â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth
Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022. (b)
Cymeradwyo cadw'r elfennau
dewisol presennol mewn perthynas â'r Cynllun Rhagnodedig: (i)
Ni
fydd unrhyw gynnydd yn y cyfnod ôl-ddyddio ar gyfer pob hawliwr yn cael ei
roi ar waith o'r 3 mis safonol a gynhwysir yn y Cynllun Rhagnodedig. (ii)
Ni
fydd unrhyw gynnydd yn y cyfnod gostyngiad estynedig ar gyfer pob hawliwr yn
cael ei roi ar waith o'r 4 wythnos safonol sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun
Rhagnodedig ar hyn o bryd. (iii)
Cymhwyso
diystyriad 100% ar gyfer Pensiynau Anabledd Rhyfel, Pensiynau Rhyfel
Gwŷr a Gwragedd Gweddw ar gyfer pob hawliwr. |
Dogfennau ategol: