Cofnodion:
Penderfyniadau:
1. Nodi'r ffrydiau gwaith
presennol sy'n gysylltiedig â Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a'r
gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan Swyddogion i hwyluso gwaith o'r
fath;
2. Nodi sut y pennir
cyfrifoldebau gweithredol;
3. Cymeradwyo'r cynnig bod rhai
Swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ymgymryd â'r
dyletswyddau fel y nodir ym Mharagraff 9 o'r adroddiad a ddosbarthwyd;
4. Rhoi cymeradwyaeth i ymrwymo
i gytundebau ar gyfer y Swyddogion hynny a fydd yn cyflawni swyddogaethau o'r
fath i Gyd-bwyllgorau Corfforedig De-orllewin Cymru;
5. Awdurdodi Cyfarwyddwr yr
Amgylchedd ac Adfywio ac unrhyw Swyddog a enwebir ganddi i gymryd rhan ym Mwrdd
Rhaglen Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru;
6. Nodi'r cynnig o ran sut y
bydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru arfaethedig a'r gwahanol
is-bwyllgorau'n cael eu sefydlu:
7. Cymeradwyo'r aelodau
etholedig y cyfeirir atynt ym mharagraffau 19 – 20 o'r adroddiad a ddosbarthwyd
i fod yn rhan o unrhyw Gyd-bwyllgor Corfforedig ac is-bwyllgorau.
8. Awdurdodi’r Arweinydd i benodi
aelod etholedig i fynd i gyfarfod os na fydd yr aelodau y cyfeirir atynt ym
mharagraffau 19 -20 o'r adroddiad a ddosbarthwyd, yn gallu bod yn bresennol.
9. Enwebu Dirprwy Arweinydd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gynrychiolydd i
Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn absenoldeb Arweinydd Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
10. Nodi cynnig Pwyllgor Craffu
Rhanbarthol ac Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru ac y dylid cyflwyno adroddiad yn y dyfodol i'r
Cyngor Llawn i gytuno ar gynrychiolwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot;
11. Cymeradwyo’r penderfyniad i
ddirprwyo Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
fel Pwyllgor Safonau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.
12. Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r
Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot, i gytuno ar unrhyw ddogfennau sy'n angenrheidiol i weithredu
gofynion yr adroddiad hwn a'r argymhellion a nodir uchod.
Rheswm dros y penderfyniadau:
Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a sicrhau bod anghenion Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn cael eu hadlewyrchu yn natblygiad
y Cyd-bwyllgorau Corfforedig hyn.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sul, 19 Rhagfyr 2021.
Dogfennau ategol: