Cofnodion:
Gwnaeth yr Aelodau canlynol ddatganiadau o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod.
Parthed: Eitem 8 ar yr Agenda – Arian Grant y
Trydydd Sector – Dyfarnu Grantiau ar gyfer 2022/2023:
Y Cynghorydd D Jones |
Gan ei bod yn ymddiriedolwr gyda'r Gymdeithas
Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a Gwasanaethau Gwirfoddol Cyngor
Castell-nedd Port Talbot, teimlai bod ei budd yn rhagfarnol a gadawodd y
cyfarfod ar gyfer yr eitem honno'n unig. |
Y Cynghorydd S Rahaman |
Gan ei fod yn ymddiriedolwr gyda'r Gymdeithas
Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, teimlai bod ei fudd yn rhagfarnol a
gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem honno'n unig. |
Y Cynghorydd P
Richards |
Gan ei fod yn aelod o fwrdd Gofal a Thrwsio Bae'r
Gorllewin, teimlai bod ei fudd yn rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr
eitem honno'n unig. |
Parthed: Eitem 15 ar yr Agenda – Cynigion Prosiect
a wnaed i Gronfa Gymunedol yr Aelodau:
Y Cynghorydd L
Jones |
Gan fod un o'i chynigion i'r Gronfa wedi'i
gynnwys yn y papurau ar gyfer y cyfarfod heddiw, teimlai bod ei budd yn
rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod ar hynny. |
Y Cynghorydd A R
Lockyer |
Gan fod un o'i gynigion i'r Gronfa wedi'i gynnwys
yn y papurau ar gyfer y cyfarfod heddiw, teimlai bod ei fudd yn rhagfarnol a
gadawodd y cyfarfod ar hynny. |