Agenda item

Cais Rhif. P2021/1090 - Mr Gary Doyle, 3, Clos Dewi Sant, Bryn SA13 2RZ

Cadw'r annedd ar wahân bresennol a'r fynedfa, y lle parcio, yr adeileddau cynnal a'r grisiau cysylltiedig, ynghyd â sgrinio arfaethedig i'r ffiniau ochr a llwyfan uchel yn 3, Clos Dewi Sant, Bryn SA13 2RZ.

Cofnodion:

Gwnaeth swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y Cais hwn (Cadw'r annedd ar wahân bresennol a'r fynedfa, y lle parcio, yr adeileddau cynnal a'r grisiau cysylltiedig, ynghyd â sgrinio arfaethedig i'r ffiniau ochr a llwyfan uchel yn 3, Clos Dewi Sant, Bryn SA13 2RZ), fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. 

 

Rhoddodd siaradwr cofrestredig ei sylwadau, ac arferodd asiant yr ymgeiswyr ei hawl i ymateb.

 

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo cais rhif P2021/1090 yn unol ag argymhellion Swyddogion, ac yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: