Caniatâd Cynllunio ar gyfer newid defnydd gwesty (C1) i gartref gofal preswyl (C2). Byddai'r defnydd arfaethedig yn darparu gofal 24 awr i 4 plentyn (hyd at 16 oed) gyda lle addysgol. Ni chynigir unrhyw newidiadau allanol, a bydd yr holl waith yn fewnol. Dylid trefnu ystafelloedd i ddarparu cegin, ystafelloedd ymolchi, ystafelloedd addysg a therapi, swyddfa/ystafell staff ac ystafelloedd gwely. Yn 282, Heol Castell-nedd, Llansawel, Castell-nedd.
Cofnodion:
Gwnaeth swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y Cais hwn
(newid defnydd gwesty (C1) i gartref gofal preswyl (C2) yn 282 Heol
Castell-nedd, Llansawel, Castell-nedd), fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Nodwyd gwall teipograffyddol yn yr adroddiad – dyddiad hysbysebu'r cais
ar y safle oedd 29 Hydref ac nid 29 Medi 2021.
Roedd yr Aelod lleol yn bresennol i roi ei sylwadau, ynghyd â siaradwr
cofrestredig, ac arferodd asiant yr ymgeisydd ei hawl i ymateb.
PENDERFYNWYD: |
Cymeradwyo cais rhif P2021/1056 yn unol ag argymhellion Swyddogion, ac
yn amodol ar yr amodau a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. |
Dogfennau ategol: