Agenda item

E-ddeisebau

Cofnodion:

Aeth Craig Griffiths drwy'r adroddiad. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod llawer o'r cynnwys o fewn y polisi yn cael ei bennu gan ddeddfwriaeth. Mae gan aelodau hyblygrwydd o ran y trothwy ar gyfer yr hyn sy'n sbarduno rhywbeth sy'n cael ei drafod mewn cyfarfod o'r cyngor. Mae paragraff 4.10 yn nodi cyfres sylfaenol o ffigurau, fodd bynnag mae'n agored i'w newid. Mae'r ffigurau'n seiliedig ar yr hyn y mae awdurdodau eraill wedi seilio eu ffigurau arno ac mae hyn wedi'i gydbwyso yn erbyn y boblogaeth.

Bydd cynllun e-ddeiseb yn cael ei roi ar y wefan, a gaiff ei gysylltu â mod.gov. Aeth Mr Griffiths drwy'r weithdrefn i sefydlu deiseb.

Holodd yr Aelodau, o fewn y cromfachau nodweddiadol arbennig, ynghylch beth gallai fod yn enghraifft o fath o ddeiseb y gellir ei hystyried. Hysbyswyd yr Aelodau mai'r polisi yw'r arweiniad cyfreithiol ac mae wedi nodi gofynion cyfreithiol y cynllun deisebu. Os cytunir ar y polisi, dywedodd swyddogion y bydd dogfennau hawdd eu defnyddio'n cael eu drafftio i eistedd ochr yn ochr â'r dogfennau cyfreithiol.

Pan ofynnir am ddeiseb, rhaid iddi ymwneud yn y pen draw â swyddogaethau'r cyngor, neu fod yn rhywbeth y mae gan y cyngor reolaeth drosto.

Holodd yr Aelodau pa mor eang y caiff ei ystyried mewn perthynas â lle mae gan y cyngor "rywfaint o ddylanwad" a phwy fydd yn gyfrifol yn y pen draw am ddehongli'r elfen hon o'r polisi. Cadarnhaodd swyddogion y byddai llawer yn dibynnu ar eiriad y ddeiseb ei hun. Er enghraifft, pe bai'r ddeiseb yn gofyn i'r cyngor ymateb yn uniongyrchol i eitem sydd y tu allan i'w gylch gwaith, ni fyddai hyn yn cael ei ystyried, fodd bynnag, pe deisyfir ar y cyngor i ysgrifennu at y prif gorff cyfrifol a gofyn iddynt ystyried mater y byddai hyn o fewn rhodd y cyngor i'w ystyried. Byddai cyfle i fynd yn ôl at y sawl sy'n cyflwyno'r cais am ddeiseb ac egluro'r gwahaniaeth iddo lle y bo'n briodol.

Dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai unrhyw drefniadau sy'n ymwneud â'r eitem hon yn cychwyn ar ddechrau'r weinyddiaeth newydd yn 2022.

Ystyriodd yr Aelodau'r llofnodion ar y deisebau a sut yr ymdrinnir â'r rhain. Cadarnhaodd swyddogion y bydd y person sy'n dechrau'r ddeiseb yn cael ei wirio orau ag y mae'n bosib, ond bydd swyddogion yn defnyddio'u barn orau a'r gwybodaeth sydd ar gael iddynt i benderfynu a yw'r llofnodwyr yn cyd-fynd â chanllawiau'r polisi.

Cadarnhaodd swyddogion y bydd deisebau a gohebiaeth o dan 100 o lofnodion yn cael eu hystyried yn yr un ffordd. Fodd bynnag, gall aelodau o'r cyhoedd fod yn hyderus y byddant yn cael ymateb hyd yn oed os nad yw'n bodloni'r trothwy i'w ystyried mewn cyfarfod o'r cyngor.

Cododd yr Aelodau ymholiadau ynglŷn â pharhad y ddeiseb. Mae'r elfen hon yn eithaf amwys o fewn y polisi a mynegodd yr aelodau eu pryder ynghylch deisebau sydd ar agor am amser hir. Nodwyd bod trefnydd y ddeiseb, o fewn y polisi, sy'n penderfynu ar faint o amser y mae ar agor. Cytunodd swyddogion fod angen ystyried amserlen briodol o fewn y polisi i sicrhau bod eitemau'n parhau'n berthnasol.

Holodd yr Aelodau sut y bydd y ddeiseb a drefnir yn cael ei diweddaru gyda chynnydd yr eitem drwy'r cyngor. Cytunodd swyddogion y gellid ychwanegu hyn at y polisi fel y byddai'r person yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y ddeiseb drwy'r cyngor, oni bai ei fod yn nodi'n groes i hyn.

 

Cytunodd yr Aelodau i ychwanegu Deisebau at y Blaenraglen Waith fel eitem sefydlog.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:Argymhellir, gan roi sylw dyladwy i'r Asesiad Sgrinio Effaith Integredig:

(a) Fod aelodau Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried Cynllun Deisebau drafft Castell-nedd Port Talbot gan argymell unrhyw newidiadau sy'n briodol yn eu barn hwy; a

(b) Y rhoddir awdurdod dirprwyedig i Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i gytuno ar y drafft terfynol i'w gymeradwyo i'r cyngor ar ran Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.

 

 

Dogfennau ategol: