Cofnodion:
Aeth Craig
Griffiths drwy'r adroddiad. Mae'n nodi dau wahanol strwythur o wybodaeth. Yn
gyntaf, mae'n nodi'r offer TG a gaiff ei ddarparu i aelodau fel rhan o'r broses
sefydlu yn 2022. Yn ail, mae'r adroddiad yn ymdrin â'r defnydd o'r eitemau a
ddarperir i Aelodau.
Holodd yr Aelodau
a yw anableddau'n cael eu hystyried o fewn y math o offer a ddarperir i'r
aelodau. Cadarnhawyd y bydd Aelodau'n cymryd rhan mewn proses sgrinio
cydraddoldeb yn Sesiwn Sefydlu'r flwyddyn nesaf lle caiff anghenion unigol yr
Aelodau eu hystyried. Bydd hyn yn sicrhau bod gofynion unigol yr Aelodau'n cael
eu hystyried ac nad oes rhwystr i unrhyw gyfranogiad ym mhrosesau'r cyngor.
Holodd yr Aelodau
a yw'r polisi fel y'i cyflwynir yn atal Aelodau rhag cael mynediad at e-byst y
cyngor etc. ar eu gliniaduron personol eu hunain. Ar ben hynny roedd pryder
ynghylch defnyddio rhaglenni 'Office'. Cadarnhaodd swyddogion nad yw'r fersiwn
gyfredol o Outlook sy'n cael ei defnyddio'n cefnogi ei defnydd ar ddyfeisiau
allanol gan nad yw'n darparu'r diogelwch angenrheidiol. Mae hyn yn cael ei
ystyried ar hyn o bryd er mwyn gweld a ellir diweddaru'r rhaglenni i wneud hyn.
Nodwyd y gellir adolygu a diweddaru'r polisïau yn ôl yr angen er mwyn ystyried
unrhyw newidiadau sydd eu hangen.
Yn dilyn
trafodaeth, cymeradwyodd yr Aelodau Bolisi TGCh diwygiedig yr Aelodau (gan
gynnwys Polisi Defnyddio'r Rhyngrwyd) gan ei gymeradwyo i'r cyngor i'w
gadarnhau.
Dogfennau ategol: