Cofnodion:
Penderfyniadau:
I'w rhoi ar waith ar unwaith
1. Sefydlu cronfa wrth gefn
benodol gwerth £2 filiwn o fewn y terfyn arian a gymeradwywyd eisoes ar gyfer
2021/2022 i roi'r mesurau a nodir yn yr adroddiad hwn ar waith er mwyn
lliniaru’r risg na fydd y cyngor yn gallu cynnal gwasanaethau hanfodol oherwydd
gallu annigonol y gweithlu.
2.Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â'r Prif
Swyddog Cyllid, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Gydraddoldeb a
Gwasanaethau Corfforaethol ddefnyddio'r
gronfa wrth gefn at y dibenion a amlinellwyd yn yr adroddiad hwn.
Rheswm dros y penderfyniadau:
Sicrhau bod y cyngor yn rhoi mesurau lliniaru ar
waith i alluogi cynnal gwasanaethau hanfodol.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Roedd y Cynghorydd Rahaman, y Cadeirydd Craffu, yn
cefnogi rhoi'r penderfyniad ar waith ar unwaith.
Mae'r penderfyniad i’w roi ar waith ar unwaith ac
nid yw'n amodol ar y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn.
Dogfennau ategol: