Agenda item

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiadau o fuddiant ar ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd E V Latham

Parthed: Eitem Frys - Cronfa Gymunedol yr Aelodau.  Roedd y cais yn Atodiad E yn gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr E V Latham, M Crowley a S Pursey ar gyfer adnewyddu ac addasu'r ardal sydd ar hyn o bryd yn gyrtiau tenis ym Mharc Vivian, Sandfields.  Teimlai fod y buddiant yn niweidiol a gadawodd y cyfarfod.

 

Y Cynghorydd

L Jones

Parthed: Eitem Frys - Cronfa Gymunedol yr Aelodau Roedd y cais yn Atodiad J yn gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd L Jones i gaffael cyfleusterau newid ar ffurf caban symudol ar gyfer timau hŷn ac iau Clwb Rygbi a Chlwb Pêl-droed Tonna. Teimlai fod y buddiant yn niweidiol a gadawodd y cyfarfod.