Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd J D Morgan, Cadeirydd
Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ac argymhellodd Siarad
Cyhoeddus mewn cyfarfodydd i'r cyngor i'w gymeradwyo.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod y cynnig yn un o
ofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021. Mae'n ofynnol i
awdurdodau lleol sefydlu ffyrdd o hyrwyddo a hwyluso prosesau y gall pobl leol
eu defnyddio i gyflwyno sylwadau i'r prif gyngor ynghylch penderfyniad cyn, ac
ar ôl iddo gael ei wneud, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Mae Protocol Siarad Cyhoeddus wedi’i ddatblygu fel
rhan o ofynion y Ddeddf a chafodd ei ystyried a’i gefnogi i’w gymeradwyo i’r
cyngor yng nghyfarfod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ar 11 Hydref 2021,
yn effeithiol o 3 Ionawr 2022.
Diolchodd y Cynghorydd J D Morgan i Bwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd am yr holl waith yr oeddent wedi’i wneud i ddod â’r
cynnig hwn gerbron y cyngor heddiw.
Roedd gwaith y pwyllgor yn y dyfodol yn cynnwys
cyfranogiad y cyhoedd a fyddai'n dod gerbron y cyngor maes o law.
PENDERFYNWYD: |
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Sgrinio Integredig: 1.
Cymeradwyo’r Protocol Siarad
Cyhoeddus fel a nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad a ddosbarthwyd gyda
dyddiad gweithredu o 3 Ionawr 2022. 2. Rhoi
awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i
ddiweddaru'r Cyfansoddiad i gynnwys cyfeiriad at y Protocol Siarad Cyhoeddus. |
Dogfennau ategol: