Cofnodion:
Gyda thristwch mawr dywedodd y Maer wrth y cyngor
am lofruddiaeth yr AS dros Orllewin Southend, Syr David Ames, ar ddydd Gwener,
15 Hydref 2021. Roedd meddyliau’r cyngor gyda’r teulu a ffrindiau ar yr adeg
hon.
Fel arwydd o barch, cafwyd munud o ddistawrwydd gan
yr Aelodau.
Ar nodyn mwy cadarnhaol, llongyfarchodd y cyngor y
Cynghorydd S Rahaman a'r teulu ar enedigaeth eu mab.
Hefyd, llongyfarchodd y cyngor Olivia Rachel
Thomas, 10 oed o Ward Tai-bach, ar ei llwyddiant diweddar ym Mhencampwriaethau
Carate'r Byd yn Rwmania.