Cofnodion:
Rhoddodd Swyddogion
adroddiad diweddaru ar effaith pandemig COVID-19 ar wasanaeth ac adferiad y
Grant Cyfleusterau i'r Anabl (GCA).
Croesawodd yr
Aelodau’r cynnydd sylweddol yn nifer y tasgau a gwblhawyd o ddiwedd mis Mai
2021 i fis Medi 2021 (a gododd o 19 i 73 yn ystod y cyfnod hwn); a hefyd
croesawyd yr adborth cadarnhaol a gafwyd gan gleientiaid a oedd wedi cael
gwaith wedi'i wneud drwy’r GCA.
Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn nodi bod y galw am adeiladwyr yn parhau'n sylweddol uwch na'r
arfer, gyda pherchnogion cartrefi'n gwneud gwelliannau i'w cartrefi; a'i bod yn
parhau i fod yn anodd cael gafael ar rai deunyddiau. Holwyd faint o effaith yr
oedd hyn yn ei chael ar y gwasanaeth, ac a oedd ffyrdd amgen o gael gafael ar
ddeunyddiau. Esboniodd Swyddogion fod hon yn broblem genedlaethol, a'r broblem
fwyaf oedd prinder contractwyr; roedd y rhan fwyaf o gontractwyr yn dal yn
brysur iawn yn gwneud y gwaith a gomisiynwyd pan oedd y pandemig yn ei anterth.
Esboniwyd bod y contractwyr yn gallu dod o hyd i ddeunyddiau, fodd bynnag bu
cynnydd sylweddol yng nghost deunyddiau. Hysbyswyd yr Aelodau fod y rhan fwyaf
o'r gwaith GCA sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd yn dasgau fel addasiadau i
gawodydd; roedd hi'n haws cael gafael ar ddeunyddiau ar gyfer y mathau hyn o
waith, ac roedd llai o alw am blymeriaid yn hytrach nag adeiladwyr cyffredinol.
Ychwanegwyd mai gwaith yn ymwneud ag estyniadau yr effeithiwyd arno fwyaf, fod
bynnag roedd tasgau'n dal i gael eu cwblhau, ond ar gyflymder arafach na'r
blynyddoedd blaenorol; roedd y cyngor wedi cyflogi adeiladwyr ychwanegol i
geisio helpu’r tasgau hyn i fynd rhagddynt, ac roeddent ar restr aros gyda
chontractwyr.
Cynhaliwyd trafodaeth
ynglŷn â'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol (ThG) a gallu'r gwasanaeth.
Soniwyd y bu’r gwasanaeth ThG yn llawn am gyfnod byr, fodd bynnag roedd prinder
ar hyn o bryd oherwydd bod staff yn gadael y gwasanaeth. Esboniodd Swyddogion y
rhesymau dros yr oedi yn y gwasanaeth a'r broses y tu ôl i'r system rhestrau
aros; tynnodd yr adroddiad sylw at y ffaith bod rhestr aros fach o 15 yn aros i
gael ei rhyddhau i'r system ar hyn o bryd. Er hyn, cadarnhawyd bod y llif
drwy'r gwasanaeth yn gweithio'n dda.
Cyfeiriwyd at
gyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ynghylch dileu'r profion modd ar
addasiadau bach a chanolig eu maint. Gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth o ran
safbwynt Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar hyn. Roedd Swyddogion yn rhagweld y
byddai'r galw'n cynyddu'n aruthrol pe bai'r profion modd ar gyfer Grantiau
Cyfleusterau i'r Anabl bach a chanolig yn cael eu dileu; pe bai penderfyniad yn
cael ei wneud i ddileu'r profion modd, byddai angen rhoi amodau ar waith i
geisio rheoli'r galw. Nodwyd bod ffactorau amrywiol i'w hystyried, yn enwedig
ynghylch y gyllideb; fodd bynnag, roedd yn bwysig bod hyn yn cael ei reoli heb
wahaniaethu yn erbyn y rheini na allent fforddio i'r gwaith gael ei gwblhau.
Hysbyswyd yr Aelodau fod trafodaethau wedi dechrau gyda Llywodraeth Cymru
ynglŷn â'r broses yn y dyfodol, ac roedd Swyddogion wedi dechrau cyflwyno
syniadau; roedd y cyngor hefyd yn gweithio'n agos gyda Chyngor Abertawe a
Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn ymdrin â hyn gydag ymagwedd ranbarthol.
Ychwanegwyd bod hwn yn fesur dewisol; felly, nid oedd yn rhaid i'r cyngor roi’r
newid ar waith.
Cadarnhawyd y bydd
adroddiad ar y mater hwn yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor maes o law, a fydd yn
rhoi cyfle i'r Aelodau rannu'r safbwyntiau a rhoi mewnbwn i'r broses, cyn i
unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud neu eu rhoi ar waith.
Canmolodd yr Aelodau'r
adran gan ddiolch i Swyddogion am eu gwaith caled o ran y Grantiau Cyfleusterau
i'r Anabl.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: