Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer Craffu Cyn Penderfyniad (mae adroddiadau Bwrdd y Cabinet wedi'u cynnwys ar gyfer Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1 2021

Rhoddwyd yr Wybodaeth am Berfformiad i'r Aelodau, ynghyd â'r Data Canmoliaethau a Chwynion ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, a'r Gwasanaethau i Oedolion ar gyfer Cyfnod y Chwarter Cyntaf (Ebrill 2021 – Mehefin 2021).

Tynnodd yr Aelodau sylw at nifer o'r dangosyddion perfformiad cadarnhaol, gan longyfarch Swyddogion ar eu gwaith caled wrth gyflawni targedau; yn enwedig o ystyried amgylchiadau'r pandemig.

Cyfeiriwyd at y graff a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd a oedd yn manylu ar nifer y swyddi gweithwyr cymdeithasol gwag, ymchwiliadau disgyblu ac achwyniadau ar draws y Gwasanaethau i Oedolion. Gofynnwyd pam roedd cynifer o swyddi gweithwyr cymdeithasol gwag a pham mae lefelau salwch tymor hir mor uchel.

Esboniodd Swyddogion fod rhai elfennau o'r adroddiad yn gamarweiniol oherwydd y ffordd y cyflwynwyd y data; Sicrhawyd yr Aelodau nad oedd unrhyw broblemau cyfredol gyda swyddi gwag na lefelau salwch tymor hir yn y Gwasanaethau i Oedolion. Dywedwyd bod y swyddi gwag a nodwyd yn y graff yn ymwneud â swyddi gwag ar draws yr adran Gofal Cymdeithasol i Oedolion gyfan, ac nad oeddent yn benodol i weithwyr cymdeithasol. Cadarnhaodd Swyddogion fod 20 o'r swyddi gwag yn gysylltiedig â'r gwasanaeth gofal cartref mewnol; nid oedd y swyddi hyn wedi'u llenwi'n wreiddiol gan eu bod yn cael eu cadw i gefnogi mater y gyllideb, fodd bynnag dros y ddwy flynedd ddiwethaf bu ymgyrch recriwtio allanol ar gyfer y swyddi hynny. Nodwyd nad oedd y cyngor, yn anffodus, wedi gallu eu llenwi; roedd methu recriwtio pobl i ofal cartref yn broblem genedlaethol. Hysbyswyd yr Aelodau fod 20 arall o'r swyddi hynny'n swyddi newydd a oedd wedi'u creu dros dro o wahanol ffrydiau ariannu dros y ddwy flynedd ddiwethaf; nid oeddent yn swyddi gwag o fewn y cyngor, yn hytrach roeddent yn swyddi nad oeddent wedi'u creu'n barhaol o'r gyllideb sylfaenol. Soniwyd mai'r unig swyddi gwag o fewn chwarter 1 oedd swyddi 4.8 cyfwerth ag amser llawn (CALl).

Yn dilyn hyn, darparodd Swyddogion wybodaeth am y lefelau salwch a oedd yn cyflwyno lefelau uchel ar y graff (39.5 CALl). Nodwyd bod 21.5 CALl yn staff o'r gwasanaeth gofal cartref mewnol; nid oedd hyn yn annisgwyl oherwydd galw'r gwasanaeth penodol hwn drwy gydol y pandemig. Hysbyswyd yr Aelodau fod gweithlu'r Gwasanaeth i Oedolion yn y sefyllfa orau y bu ynddi ers blynyddoedd lawer o ran lefelau salwch; roedd y cyfraddau salwch mewn ffigurau sengl ar hyn o bryd.

Dywedwyd bod Penaethiaid y Gwasanaethau i Oedolion yn gweithio gyda Swyddogion Adnoddau Dynol i newid sut y cyflwynwyd y data; bydd y data'n cael ei rannu'n gylchoedd gwaith Prif Swyddogion i geisio sicrhau bod y ffigurau'n fwy ystyrlon ac yn adlewyrchu darlun mwy cywir o'r Gwasanaethau i Oedolion.

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â swyddi gwag ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol. Cadarnhaodd Swyddogion fod swyddi gwag o fewn y gwasanaeth hwn, a bod y broblem recriwtio’n un genedlaethol a pharhaus. bu sawl achlysur lle'r oedd unigolion wedi dewis gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn hytrach nag awdurdodau lleol. Fodd bynnag, soniwyd bod Swyddogion wedi rhoi hysbyseb ar y cyd ar wefan y GIG yn ddiweddar mewn perthynas â swyddi gwag, ac yn dilyn hyn derbyniwyd 50 o geisiadau ar draws y rhanbarth. Tynnwyd sylw at y ffaith bod Swyddogion yn bwriadu darparu cyfle tebyg i Gynorthwy-wyr Therapyddion Galwedigaethol a gyflogir gan y cyngor, i gyllid gradd gweithwyr cymdeithasol; byddent yn ymgymryd â chwrs tair blynedd ar lefel gradd, cyn y byddent yn gallu gweithio'n fewnol fel Therapyddion Galwedigaethol cwbl gymwysedig.

Holodd yr Aelodau i bwy y rhoddwyd Fframwaith Sicrhau Ansawdd a Dysgu Plant ac Oedolion Castell-nedd Port Talbot a phwy oedd yn ei ddefnyddio. Cadarnhaodd Swyddogion fod y ddogfen wedi'i chynllunio at ddefnydd mewnol. Nodwyd bod y Safonau Gwasanaeth Cwsmeriaid a nodir yn y fframwaith wedi'u datblygu'n fewnol gydag Ymarferwyr, Rheolwyr ac Uwch-reolwyr; fodd bynnag, sylweddolwyd ei bod hefyd yn bwysig cysylltu â'r gymuned ehangach fel rhieni, plant, gofalwyr, cartrefi gofal a grwpiau eraill. Hysbyswyd yr Aelodau fod Swyddogion wedi gwneud y gwaith hwn i ddarganfod yr hyn a oedd yn bwysig iddynt; helpodd hyn i osod y fframwaith sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, manylu ar yr hyn yr oedd y cyngor yn ceisio'i gyflawni a nodi pa wahaniaeth a oedd yn cael ei wneud. Dywedwyd mai'r Safonau Gwasanaethau Cwsmeriaid oedd yr hyn yr oedd y defnyddwyr gwasanaeth yn ei ddisgwyl gan y cyngor yn ei hanfod; pan fydd Swyddogion yn gwneud eu gwaith sicrhau ansawdd, maent yn defnyddio'r cwestiynau/datganiadau a gynhwysir yn y safonau i sicrhau eu bod yn cyflawni'r hyn a ddisgwylid ganddynt.

Cydnabuwyd bod Fframwaith Sicrhau Ansawdd a Dysgu Plant ac Oedolion Castell-nedd Port Talbot yn cynnwys elfen a oedd yn nodi yr arsylwir ar gyfarfodydd gwneud penderfyniadau allweddol drwy raglen dan arweiniad uwch-reolwyr yn y gwasanaeth; Gofynnodd yr Aelodau, gyda'r gwaith dwys sylweddol a oedd yn cael ei wneud ar hyn o bryd, a fyddai uwch-reolwyr yn gallu ymdopi ag arsylwi ar y cyfarfodydd niferus sy'n cael eu cynnal. Nodwyd bod y grŵp sicrhau ansawdd yn cyfarfod bob pythefnos; mae cynrychiolwyr o'r Gwasanaethau Plant ac Oedolion yn mynd i’r cyfarfodydd hyn. Hysbyswyd yr Aelodau fod gan y grwp flaengynllun gwaith a oedd yn rhestru gwahanol gyfarfodydd yr oedd angen arsylwi arnynt dros amser; y disgwyliad oedd na fyddai uwch-reolwyr yn arsylwi ar yr holl gyfarfodydd ar un adeg, ac y byddai'n ymagwedd fesul cam. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y pwysau amrywiol ar draws y gwasanaeth yn cael ei gydnabod.

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

Codiadau mewn ffïoedd i gefnogi cynaladwyedd Gofal Cartref a'r Gwasanaethau Byw â Chymorth 

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch y bwriad i weithredu cynnydd o 10% i'r ffïoedd a dalwyd i ddarparwyr a gontractiwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar gyfer darparu gwasanaethau Gofal Cartref a Byw â Chymorth.

Croesawodd yr Aelodau'r fenter a thynnodd sylw at y ffaith bod Aelodau wardiau'r cymoedd yn falch o weld y gydnabyddiaeth bod y broblem hon yn effeithio'n anghymesur ar ardaloedd y cymoedd; fodd bynnag, roedd y ffigurau'n peri pryder mawr.

Gofynnwyd a allai Swyddogion ddarparu gwybodaeth am yr hyn yr oedd y cyngor yn ei wneud ar hyn o bryd i sicrhau bod y rheini y tynnwyd y pecynnau gofal oddi arnynt, yn ddiogel, yn derbyn gofal da ac yn llwyddo i fyw'n annibynnol. Esboniwyd bod y gwasanaeth, yn ystod yr wythnos ddiwethaf, wedi cael ei hun yn y sefyllfa anoddaf y bu ynddi erioed; am y tro cyntaf erioed, roedd y staff yn gorfod cynnig lle i unigolion mewn cartref gofal yn hytrach nag aros yn eu cartref eu hunain gyda phecyn gofal. Nodwyd bod 41 o bobl yn y gymuned ar hyn o bryd, yr aseswyd bod angen pecyn gofal arnynt, yn cael eu cefnogi gan deulu a ffrindiau; cefnogwyd hyn gan ymweliad gan y Gweithiwr Cymdeithasol bob mis, galwadau ffôn wythnosol, gwiriadau lles, a'r defnydd o'r Cydlynwyr Ardaloedd Lleol i sicrhau bod y teuluoedd yn ymdopi. Ers mis Medi, roedd y gwasanaeth wedi derbyn 50 o achosion/gleientiaid yn ôl gan ddarparwyr allanol, oherwydd bod staff yn gadael y swydd; bydd wyth achos/cleient arall yn cael eu derbyn yn ôl yn ystod y pythefnos nesaf. Sicrhaodd Swyddogion yr Aelodau eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu, a chynnig lle i rywun mewn cartref gofal, yn hytrach na darparu pecyn gofal iddynt, oedd y dewis olaf.  Soniwyd bod y broses recriwtio’n weithredol a bod 10 person yn cael eu cyfweld yn ystod yr wythnosau i ddod.

Gofynnwyd i Swyddogion a oeddent yn hyderus y byddai'r cynnydd yn gweithio o ran denu staff, ac a fyddai'n ddigon. Nodwyd bod y cynnydd o 10% yn risg i'w gymryd, ac nid oedd yn hysbys a fyddai'n gweithio o ran denu staff a/neu gadw staff yn y gwasanaeth. Roedd Swyddogion wedi siarad â phob darparwr ac wedi awgrymu nifer o opsiynau iddynt; dywedodd pob un o'r darparwyr eu bod am gael rhyw fath o barhad, a'u bod yn hapus i dderbyn 10% ar yr awrdal. Hysbyswyd yr Aelodau fod y contract wedi tynnu sylw at y ffaith y bydd yr arian yn cael ei drosglwyddo i'r gweithwyr rheng flaen; Bydd Swyddogion yn monitro hyn drwy'r Tîm Contractio.

Tynnodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai sylw at y risgiau amrywiol sy'n gysylltiedig â'r cynnydd. Fodd bynnag, dywedwyd bod y risg o beidio â gwneud unrhyw beth yn llawer gwaeth; ar hyn o bryd roedd llawer o staff yn y farchnad allanol yn gadael mewn niferoedd a oedd yn effeithio ar y gallu i ddarparu gofal, felly roedd yn hanfodol ceisio cadw'r staff presennol. Roedd rhai o'r risgiau a grybwyllwyd yn cynnwys y canlynol:

·        Cynigiwyd y cynnydd ar gyfer y farchnad allanol, ac nid y farchnad fewnol; nid oedd yn cynnwys gweithwyr gofal preswyl chwaith. Roedd y rhain yn risgiau gan y gallai staff ddewis gadael y gwasanaeth neu symud o un maes i ofal cartref;

·        Roedd y cynnydd yn fforddiadwy am weddill y flwyddyn ddinesig a'r flwyddyn ddinesig nesaf, fodd bynnag roedd y cyllid parhaus ar ei gyfer ymhell o fod yn glir; heb arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi hyn, bydd pwysau'n cael ei roi ar gyllideb y cyngor.

Esboniodd Swyddogion eu bod wedi bod yn siarad â Llywodraeth Cymru ynghylch cyllid cynaliadwy; byddai hyn yn caniatáu i'r cyngor godi'r cyflog byw ar gyfer holl staff y sector gofal, a darparu ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth o'r manteision enfawr y mae staff gofalu yn eu cynnig i'r bobl fwyaf diamddiffyn hynny.

Holwyd a oedd diffyg Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn ffactor sy'n cyfrannu at y problemau sy'n ymwneud â staffio. Hysbyswyd y Pwyllgor fod Swyddogion wedi cynnal ymchwil yn ymwneud â hyn cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd; cwblhawyd yr ymarfer hwn er mwyn ceisio dod i ddeall yr effaith y byddai Brexit yn ei chael ar y sector. Cadarnhawyd bod nifer isel iawn o ddinasyddion yr UE yn gweithio yn y sector gofal yng Nghastell-nedd Port Talbot; ac roedd y rheini a oedd yn gwneud, wedi gwneud cais am Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. O ran y problemau staffio yn y sector, tynnwyd sylw at y ffaith bod nifer o ffactorau'n cyfrannu at hyn; gan gynnwys cystadleuaeth yn y gweithlu, cwmnïau/sefydliadau eraill sy'n cynnig cyfraddau cyflog a chyfleoedd cyflogaeth ffafriol, a'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y gweithlu gofal sydd wedi arwain at unigolion wedi blino'n lân. 

Yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, nododd fod perygl y gallai peidio â gweithredu'r un lefel o gynnydd i'r sector Cartrefi Gofal Pobl Hŷn arwain at staff Cartrefi Gofal yn gadael eu cyflogaeth bresennol i weithio mewn Gofal Cartref neu Fyw â Chymorth oherwydd y cyfraddau cyflog uwch. Gofynnodd yr Aelodau pa ddulliau rheoli, os o gwbl, oedd ar waith i atal hyn rhag digwydd. Dywedwyd nad oedd y cyngor mewn sefyllfa ar hyn o bryd i efelychu'r cynnydd ar draws y Sector Gofal Preswyl, fodd bynnag roedd Swyddogion wedi cwblhau'r ymchwil angenrheidiol ac o'r farn bod mwy o angen yn y ddarpariaeth Gofal Cartref ar hyn o bryd. Esboniodd y Cyfarwyddwr y bydd ymarfer ailddosbarthu yn y dyfodol agos a fydd yn digwydd ar draws y farchnad gofal preswyl, wrth i gyllid cymorth Llywodraeth Cymru ddod i ben; roedd y cynnydd o 10% yn risg ofalus, fodd bynnag roedd y rheolwyr yn y gwasanaeth yn wybodus iawn am y farchnad. Sicrhawyd yr Aelodau, er gwaethaf yr hyn a oedd yn ceisio cael ei gyflawni gyda'r farchnad allanol, fod y cyngor yn mabwysiadu ymagwedd weithredu ar draws y cyngor; ac roeddent yn defnyddio grwpiau o Swyddogion i edrych ar dargedu gwahanol grwpiau a chyrff, megis prifysgolion a'r colegau. 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

Dyfodol Cartref Gofal Preswyl Trem y Glyn

Hysbyswyd yr Aelodau o ganlyniad y trafodaethau â’r sefydliad tai, Grŵp Pobl, mewn perthynas â pharhau i weithredu Cartref Gofal Preswyl, Trem y Glyn, tan 31 Mawrth 2025.

Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn manylu ar y ddau drefniant ariannu gwahanol i'r Aelodau eu hystyried, pe baent yn dymuno cymeradwyo Opsiwn 2 neu Opsiwn 3; roedd trefniant ariannu A yn dweud y byddai Pobl yn cynnal cyfrifoldebau am atgyweirio a chynnal a chadw. Gofynnodd yr Aelodau a fyddai Pobl yn cytuno i ymgymryd â'r trefniadau hyn. Cadarnhawyd bod Swyddogion wedi bod yn cynnal trafodaethau â Grŵp Pobl am gryn amser; roeddent wedi cael gwybod am yr adroddiad ac roeddent yn cytuno ag ef.

Pe dewisir cefnogi Opsiwn 2 neu Opsiwn 3, roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn tynnu sylw at y ffaith y byddai Pobl yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor dalu am adennill y costau'n llawn; Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad pellach ynghylch yr hyn y mae’n ei olygu. Esboniodd Swyddogion mai dyma'r rheswm pam roedd y cyfraddau ar gyfer contractio'r gwasanaeth hwn yn y dyfodol yn wahanol i'r cyfraddau blaenorol a dalwyd; roedd manylion hyn wedi'u cynnwys yn atodiadau'r adroddiad a ddosbarthwyd. Hysbyswyd yr Aelodau y cytunwyd, pe bai estyniad i'r contract yn cael ei wneud, y byddai angen datblygu contract ar wahân a fyddai'n ystyried holl gostau cynnal Trem y Glyn; byddai hwn yn gontract annibynnol gyda Pobl lle byddent yn codi cyfradd lawn y 27 gwely ar y cyngor.

Rhannodd yr Aelod Lleol dros Flaen-gwrach a'r ddau Aelod Lleol yng Nglyn-nedd, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, eu pryderon ynglŷn â'r penderfyniad a wnaed yn 2016 i gau Trem y Glyn, a'r effeithiau y byddai cau'r cartref yn eu cael ar y preswylwyr, y staff a'r gymuned ehangach, gan dynnu sylw'n benodol at y ffaith nad oedd unrhyw gartrefi gofal cymunedol eraill yng Nghwm Nedd na Chwm Dulais. Rhannodd yr Aelodau eu barn ar y gwahanol opsiynau a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd a holwyd am elfennau o'r broses a oedd yn arwain at gyflwyno'r adroddiad i'r Pwyllgor.  

Gwnaeth yr Aelodau ymholiadau yn ymwneud â'r strategaeth ymadael yr oedd yn ofynnol i Pobl ei datblygu. Cadarnhaodd Swyddogion y dywedwyd wrth Pobl am ohirio llunio strategaeth ymadael oherwydd bod yr adroddiad hwn wedi'i gyflwyno er mwyn ystyried gwahanol opsiynau; pe penderfynwyd ar Opsiwn 1, parhau â'r bwriad i gau Trem y Glyn erbyn 31 Mawrth 2022, yna bydd angen i Pobl greu'r strategaeth ymadael dros y misoedd nesaf.

Cododd y Pwyllgor eu pryderon ynghylch y problemau cludiant sy'n gysylltiedig â chau Trem y Glyn. Nododd yr adroddiad a ddosbarthwyd y byddai'r cyngor yn ariannu darpariaeth cludiant benodol â chyfyngiad amser mewn achosion profedig o galedi; fodd bynnag, nodwyd na chwblhawyd yr arolwg traffig y bwriadwyd ei gynnal i nodi problemau traffig a thrafnidiaeth posib. Soniodd Swyddogion y byddai'r mater sy'n ymwneud â chostau teithio’n cael ei gynnwys mewn strategaeth gadael; cydnabuwyd y bydd angen ymchwilio i hyn, fodd bynnag nid oedd lefel sylweddol o fanylion ar gael ar hyn o bryd.

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â'r preswylwyr a'r staff presennol sy'n gweithio yn Nhrem y Glyn, a sut y byddai hyn yn effeithio arnynt. Nodwyd bod y preswylwyr a'r staff yn flaenoriaeth, ac roedd Swyddogion wedi bod yn gweithio i geisio dod o hyd i ffyrdd o sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi pan fydd yn cau.

Argymhellodd Swyddogion y dylai'r Pwyllgor ystyried Opsiwn 3, a oedd yn sefyllfa dros dro lle byddai'r ddarpariaeth cartref gofal yn Nhrem y Glyn yn cael ei hymestyn am flwyddyn arall, gydag opsiwn i barhau i ymestyn hyd at 2025. Hysbyswyd yr Aelodau fod y farchnad breswyl yn wahanol iawn ar hyn o bryd i'r adeg pan roddodd Swyddogion yr adroddiad diwethaf i'r Pwyllgor am Drem y Glyn; mae'r pandemig wedi cael effaith amlwg ar y nifer sy'n derbyn gofal preswyl, ar staffio a'r gallu i symud preswylwyr yn ddiogel o un cartref i'r llall, a gwneud asesiadau mewn modd amserol. Nodwyd bod y farchnad yn gyfnewidiol iawn ar hyn o bryd, ac nid oedd Swyddogion yn gallu barnu beth fyddai’n digwydd gyda'r farchnad yn y misoedd nesaf; Roedd Opsiwn 3 yn cynnig sefyllfa dros dro er mwyn i Swyddogion ddeall y farchnad yn well y flwyddyn nesaf, ar ôl i'r effeithiau gan Lywodraeth Cymru a'u gostyngiad mewn cyllid gael eu nodi.

Soniodd yr Aelodau eu bod wedi gofyn i Swyddogion o'r blaen a fydd adeilad newydd yn ei le cyn cau Trem y Glyn; ni chafwyd adroddiad pellach ar hyn. Esboniodd y Cyfarwyddwr, pan wnaed y penderfyniad yn 2016 i gau'r cartref gofal, y penderfynwyd hefyd na fyddai cartref gofal newydd yn cael ei adeiladu yn ardal Glyn-nedd; fodd bynnag, roedd cynnig ar waith gan Pobl i adeiladu rhyw fath o fyw â chymorth. Er y gallai'r cynnig hwn ddarparu ar gyfer anghenion rhai preswylwyr, esboniwyd na ellid ei ddisgrifio fel cartref gofal preswyl ac na allai gymryd lle Trem y Glyn. Nodwyd bod Pobl wedi gofyn a oedd gan y cyngor ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r datblygiad hwn o safbwynt gofal cymdeithasol ar gyfer diwallu anghenion pobl hŷn; roedd y cyngor wedi cytuno i hyn, fodd bynnag nid oedd Swyddogion wedi cymryd rhan eto mewn trafodaethau manwl gyda Pobl o ran sut beth fydd y trefniant hwn.

Yn dilyn hyn, cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â darparu cartrefi gofal yn y fwrdeistref sirol yn y dyfodol. Nodwyd bod dros 150 o welyau cartrefi gofal preswyl gwag ar draws y fwrdeistref sirol ar hyn o bryd; roedd hyn yn nifer sylweddol o welyau. Ychwanegodd Swyddogion fod gan rai cartrefi gofal yn yr ardal lefelau deiliadaeth o lai na 70%; pe bai hyn yn parhau, ni fyddai'r cartrefi gofal hyn yn ddichonadwy yn y dyfodol.

Tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith bod y galw am leoedd yn Nhrem y Glyn yn sylweddol o hyd, o'i gymharu â rhai cartrefi gofal eraill ar draws y fwrdeistref sirol lle mae’r galw’n is; a chododd bryderon ynghylch anwadalrwydd ac ansicrwydd cartrefi gofal yn y sector preifat. Nodwyd bod gan Trem y Glyn tua 3 neu 4 gwely gwag ar hyn o bryd; fodd bynnag, eglurwyd y bydd y newidiadau dramatig sydd ar ddod yn y farchnad dros y 6-8 mis nesaf yn cael effaith ar nifer y lleoedd gwag ar draws pob cartref gofal. Esboniodd Swyddogion fod angen sbectrwm cyfan o ofal ar bobl wrth iddynt fynd yn hŷn, a bod rhywfaint o'r angen hwnnw yn cynnwys byw â chymorth; roedd angen archwilio opsiynau gofal eraill ac roedd angen llunio strategaeth gyffredinol ar gyfer y fwrdeistref sirol gyfan.

Cynhaliwyd trafodaethau ynglŷn â'r penderfyniad cychwynnol a wnaed yn 2016 i gau Trem y Glyn, a'r penderfyniad a wnaed ar ôl hyn i adeiladu dau gartref gofal yn hytrach na'r cynnig gwreiddiol o bedwar; yn dilyn cyngor cyfreithiol, ailadroddwyd mai'r opsiynau i'w hystyried yn y cyfarfod oedd y rheini a gynhwyswyd gyda'r adroddiad a ddosbarthwyd. Hysbyswyd yr Aelodau na fyddai Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn caniatáu i Drem y Glyn barhau yn y tymor hir, ar ei ffurf bresennol, gan nad oedd ganddo'r cyfleusterau a ddisgwylid mewn cartref gofal cyfredol. Nodwyd y byddai trafodaethau ynghylch cartrefi newydd posib yn cael eu cynnal yn y dyfodol. Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw at y ffaith y byddai angen i’r Aelodau gael yr holl wybodaeth berthnasol am y strategaeth a fyddai'n cael ei dilyn yn y dyfodol mewn perthynas â’r mater hwn; byddai'r strategaeth hon yn diwallu anghenion y fwrdeistref sirol, fodd bynnag ni fyddai’n cael ei datblygu eto.

Ar ôl ystyried y gwahanol opsiynau a gynhwyswyd yn yr adroddiad, esboniwyd bod costau sylweddol yn gysylltiedig ag Opsiwn 2 (ymrwymo i gontract newydd gyda Pobl i gadw Trem y Glyn am gyfnod hyd at 31 Mawrth 2025).

Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn cyfeirio at ryddhau cleifion a oedd wedi'u hoptimeiddio'n feddygol yn brydlon, y bydd angen cartrefi gofal arnynt fel llwybr; gofynnodd yr Aelodau a oedd trafodaethau wedi'u cynnal â'r Bwrdd Iechyd ynghylch eu barn am a fyddai angen Trem y Glyn yn y tymor byr neu'r tymor hir. Esboniodd swyddogion nad oedd trafodaethau penodol ar statws Trem y Glyn wedi'u cynnal â'r Bwrdd Iechyd, fodd bynnag roedd Swyddogion yn cael sgyrsiau wythnosol â nhw ynglŷn â sefyllfa cartrefi gofal ar draws y fwrdeistref sirol; y gobaith oedd y byddai mwy o eglurder ynghylch hyn ar ôl y 6-9 mis nesaf.

Crynhodd y Cadeirydd y trafodaethau a gynhaliwyd; a chynhaliwyd pleidlais i benderfynu pa un o'r tri opsiwn, a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yr oedd yr Aelodau o blaid ei argymell i Fwrdd y Cabinet. Roedd canlyniadau'r bleidlais fel a ganlyn:

Opsiwn 1 – 0

Opsiwn 2 – 1

Opsiwn 3 – 10

Yn dilyn y bleidlais, cynigiwyd ac eiliwyd Opsiwn 3 i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.