Cofnodion:
Diolchodd yr Aelodau i'r Swyddogion am yr holl
waith yr oeddent wedi'i wneud wrth ddatblygu'r cynnig hwn gerbron yr Aelodau
heddiw.
Penderfyniadau:
1.Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r ymgynghoriad, y gwrthwynebiadau a'r asesiadau
effaith mewn perthynas â chydraddoldeb, risg, defnydd cymunedol a'r Gymraeg
ynghyd â'r goblygiadau cyfreithiol, ac yng ngoleuni'r holl ddeunydd, yn unol ag
adran 53 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, cymeradwyir
sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg, yn weithredol o 1 Medi 2024, gyda Chanolfan
Cefnogi Dysgu mewn adeiladau newydd i dderbyn disgyblion o ddalgylchoedd
presennol ysgolion cynradd yr Alltwen, Godre’r Graig a Llangiwg, y byddai pob
un ohonynt yn cau ar 31 Awst 2024.
2.Y dyddiadau gweithredu fydd 31 Awst/1 Medi 2024.
3. Datgenir na fydd angen
safleoedd ac adeiladau'r tair ysgol wag mwyach o ran gofynion gweithredol y
Gwasanaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes.
Rhesymau dros y Penderfyniadau:
Galluogi'r cyngor i gydymffurfio â'r gofynion
deddfwriaethol sy'n darparu ar gyfer gweithredu'r cynnig. Bydd hefyd yn
galluogi'r cyngor i hyrwyddo safonau uchel a chyflawni potensial pob plentyn a
chyflawni’i ddyletswydd i sicrhau addysg effeithlon yn ei ardal.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
tri diwrnod galw i mewn.
Dogfennau ategol: