Agenda item

Rhif P2018/0493 - Cyrchfan Antur Cwm Afan

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddogion adroddiad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (Cais cynllunio amlinellol (gan gynnwys mynediad) ar gyfer cyrchfan antur yn cynnwys 600 o gabanau gwyliau/fflatiau, gwesty â 100 gwely a sba cysylltiedig, plaza canolog yn cynnwys bwytai, gweithgareddau hamdden a siopau, gweithgareddau antur ac adeiladau cysylltiedig (gan gynnwys chwaraeon eithafol, llethrau sgïo/alpaidd, gweithgareddau yn y goedwig a Trax & Trail), bwytai ac adeiladau gweinyddol a chynnal a chadw cysylltiedig a pharcio ar gyfer oddeutu 850 o geir, yn ogystal â gweithrediadau tirlunio, draenio a pheirianneg cysylltiedig gan gynnwys ailbroffilio tir, triniaeth ffin, adeileddau cynnal, goleuadau allanol a theledu cylch cyfyng, a dargyfeirio hawliau tramwy cyhoeddus.

 

Gwybodaeth ychwanegol a diwygiedig a dderbyniwyd ar 25/01/2019 a 07/02/2019 dan Reoliad 24 mewn perthynas â bioamrywiaeth, tirwedd ac effaith weledol, effaith economaidd gymdeithasol a thrafnidiaeth ynghyd ag addasiadau i'r prif gynllun a chynllun paramedrau. (Medi 2021 - Cyflwyniadau ychwanegol sy'n mynd i'r afael â chyllid/chyflawniad datblygu, gan gynnwys Cynllun Busnes diwygiedig gan Wildfox Resorts a'r rhaglen ddangosol; y diweddaraf am y polisi cynllunio; Nodyn dilysu ecolegol, a mân newidiadau i'r Uwch-gynllun a'r Cynllun Paramedrau) ar dir ym Mhen y Bryn, Croeserw, Y Cymmer, Port Talbot) fel y manylir yn yr adroddiad a gylchredwyd.

 

Rhoddodd dau gynrychiolydd ar ran yr ymgeisydd eu sylwadau, yn ogystal ag aelodau lleol y ward a roddodd eu cefnogaeth i'r cais.

 

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo Cais Rhif P2018/0493, yn unol ag argymhellion swyddogion, yn amodol ar gytundeb cyfreithiol Swyddog Adran 106 a’r wybodaeth a’r penderfyniad diwygiedig a gynhwysir yn y Daflen Ddiwygio a gylchredwyd, yn ogystal â’r amodau y manylir arnynt yn yr adroddiad a gylchredwyd.

 

 

 

Dogfennau ategol: