Cofnodion:
Darparwyd Adroddiad Blynyddol
Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA) i'r Pwyllgor;
mae'r Adroddiad Blynyddol yn nodi cynigion a fyddai, o'u gweithredu, yn
effeithio ar gydnabyddiaeth ariannol Aelodau yn y flwyddyn ddinesig 2022/2023.
Soniwyd bod y PACGA yn gwahodd sylwadau ar ei gynigion drafft cyn gwneud ei
benderfyniadau terfynol ar gyfer y flwyddyn ddinesig ganlynol.
Nodwyd y byddai Pennaeth y
Gwasanaethau Democrataidd yn ymateb i'r cynigion ar ran y cyngor, a fyddai'n
cynnwys unrhyw sylwadau a/neu farn a fynegwyd gan Aelodau Pwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd.
Hysbyswyd yr Aelodau fod y
ffigurau yn yr adroddiad a ddosbarthwyd wedi'u pennu gan PACGA a mater i'r
Aelod unigol fyddai derbyn y trefniadau diwygiedig ai peidio; roedd gan bob
Aelod Etholedig gyfle i roi eu hymatebion unigol i'r cynigion drwy eu cyflwyno
i PACGA yn uniongyrchol.
Gofynnwyd a fyddai Aelodau
Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn cael gweld ymateb drafft y cyngor cyn
iddo gael ei anfon at PACGA. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith y byddai
Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn cynnwys barn a sylwadau Aelodau
Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd drwy ystyried cofnodion y cyfarfod; pe na
bai unrhyw sylwadau'n cael eu codi, yna byddai swyddogion yn darparu ymateb
niwtral. Hysbyswyd yr Aelodau fod angen cyflwyno'r ymateb erbyn diwedd mis Tachwedd
2021; cyn hyn cytunwyd y bydd yr ymateb yn cael ei ddrafftio a'i anfon at yr
Aelodau drwy e-bost i'w ystyried, cyn ei anfon at y PACGA.
Yn ogystal, amlygwyd y
byddai'r Cadeirydd a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn mynd i sesiwn
friffio PACGA ddydd Gwener 22 Hydref; a byddent yn hapus i godi unrhyw bwyntiau
a oedd gan yr Aelodau.
Ar ôl ystyried y cynigion,
roedd yr Aelodau'n cefnogi'r argymhellion a gynhwyswyd yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: