Ystyriodd yr Aelodau gais i adolygu Trwydded Mangre
ac ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol a wnaed o
dan Ddeddf Trwyddedu 2003:
Enw'r fangre
|
Yr Hen Feddygfa (The Surge)
|
Cyfeiriad y fangre
|
74 Commercial Road, Tai-bach, Port Talbot SA13 1LR
|
Enw'r ymgeisydd
|
Mrs Leah Morgan
|
Cyfeiriad yr ymgeisydd
|
Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Castell-nedd Port Talbot,
Y Ceiau, Ffordd Brunel SA11 2GG
|
Enw Deiliad y Drwydded
|
Mr Mark Cubberley
|
Enw'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig
|
Mr Mark Cubberley
|
PENDERFYNWYD: Penderfynodd yr Is-bwyllgor addasu amodau'r drwydded
mangre fel y byddai'r amodau canlynol yn berthnasol
a. Yn rhinwedd A177 (A) o Ddeddf Trwyddedu 2003 bydd
amodau'r Drwydded Mangre sy'n ymwneud ag adloniant a reoleiddir mewn grym rhwng
8:00 a 23:00.
- Ni fydd unrhyw sŵn wedi'i
chwyddleisio'n allanol (h.y. yn yr ardd gwrw, y maes parcio, nac yn
unrhyw le arall y tu allan i gwrtil yr adeilad).
- Ni fydd adloniant rheoledig ar ffurf
cerddoriaeth fyw neu gerddoriaeth wedi'i recordio yn y safle hyd nes y
bydd deiliad y drwydded a/neu berchennog y safle yn comisiynu
ymgynghorydd acwstig annibynnol i gynnal Asesiad Effaith Sŵn a bod y
mesurau rheoli a argymhellir yn yr asesiad yn cael eu gweithredu. Bydd copi o'r Asesiad Effaith Sŵn
ynghyd â thystiolaeth ategol y cydymffurfiwyd â'r gofynion yn cael ei
ddarparu i'r Awdurdod Lleol i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig cyn y gellir
cymeradwyo mangre adloniant a reoleiddir.
- Er mwyn cydymffurfio â'r uchod, rhaid
bodloni'r meini prawf canlynol;
i. Rhaid i'r adroddiad gael ei gynnal gan
ymgynghorydd acwstig a fydd yn aelod o Gymdeithas yr Ymgynghorwyr Sŵn ac
yn aelod o'r Sefydliad Acwsteg.
ii. Bydd y fethodoleg ar gyfer yr asesiad sŵn yn
cyd-fynd â chanllawiau cyfredol y DU a Safonau Prydeinig a bydd yr Awdurdod
Lleol yn cytuno arnynt cyn i'r asesiad ddechrau.
iii. Cyn gweithredu'r mesurau rheoli, rhoddir cyfle
i'r Awdurdod Lleol adolygu a rhoi sylwadau ar yr Asesiad Effaith Sŵn a'i
argymhellion.
- Bydd Deiliad y Drwydded Mangre neu berson
enwebedig yn cynnal arsylwadau sŵn rhagweithiol y tu allan i'r safle
o leiaf unwaith yr awr wrth ddarparu adloniant a reoleiddir, ac yn cymryd
unrhyw gamau adferol angenrheidiol. Bydd cofnod ysgrifenedig o asesiadau
sŵn allanol rhagweithiol a, lle y bo'n berthnasol, gamau adferol a
gymerir yn cael ei gadw am o leiaf 31 diwrnod i ddyddiad y cofnod
diwethaf yn y cofnod a bydd y cofnod hwn ar gael i'w archwilio ar gais
gan swyddogion awdurdodedig y cyngor bob amser mae'r safle ar agor.
- Ni fydd seinyddion wedi'u lleoli wrth
fynedfa ac allanfa'r safle na'r tu allan i'r adeilad.
- Bydd pob ffenestr a drws allanol yn cael eu
cadw ar gau ar ôl (21:00) o'r gloch neu ar unrhyw adeg pan fydd adloniant
a reoleiddir yn digwydd, ac eithrio wrth i bobl fynd i mewn ac allan o'r
fangre. (I ddosodli'r amod presennol sy'n ymwneud â ffenestri a drysau
yn cael eu cau yn ystod cerddoriaeth wedi'i chwyddleisio)
- Rhaid i'r ardaloedd smygu, gan gynnwys yr ardd
gwrw, gael blwch llwch/biniau addas, a bydd Deiliad y Drwydded Mangre neu
berson enwebedig yn monitro'r defnydd ohono. Rhaid i'r ardaloedd smygu, gan gynnwys
yr ardd gwrw a'r priffyrdd cyfagos gael eu brwsio'n rheolaidd i gael
gwared ar ben sigaréts a'u cadw mewn modd glân a thaclus bob amser.
- Caiff system teledu cylch cyfyng ddigidol
ei gosod ar y safle neu caiff y system bresennol ei chynnal, a fydd yn
weithredol bob amser pan fydd y safle ar agor i'r cyhoedd ac yn gallu
darparu lluniau o ansawdd tystiolaethol ym mhob golau, yn enwedig adnabod
wynebau. Rhaid i'r recordiadau teledu cylch cyfyng gael eu hamseru'n
gywir a'u stampio a'u cadw am gyfnod o 31 diwrnod a'u darparu i'w gweld
gan yr Heddlu neu Swyddog Awdurdodedig i'r Awdurdod Trwyddedu ar gais. Rhaid i'r system roi sylw i'r meysydd
canlynol:-
·
Perimedr
allanol y safle
·
Mynedfeydd
ac allanfeydd y safle;
·
Mannau
cyhoeddus mewnol ac allanol y safle (h.y. gardd gwrw a maes parcio)
- Bydd aelod o staff o'r fangre, sy'n
gyfarwydd â gweithredu'r system teledu cylch cyfyng, ar y safle bob amser
pan fydd y safle ar agor i'r cyhoedd.
Bydd yr aelod staff hwn yn gallu dangos a darparu data neu luniau
diweddar i'r Heddlu neu'r swyddogion awdurdodedig gyda chyn lleied o oedi
â phosib yn dilyn cais cyfreithlon.
- Bob nos Wener a nos Sadwrn, nos Sul unrhyw ŵyl
banc, Noswyl Nadolig, Gŵyl San Steffan, pan ddarperir adloniant,
bydd o leiaf 2 oruchwylydd drws SIA cofrestredig ar ddyletswydd o 20:00
tan yr amser cau a phan na ddarperir adloniant, cyflogir un goruchwyliwr
drws SIA cofrestredig. Ar bob adeg
arall, bydd Deiliad y Drwydded Mangre'n asesu'r angen am oruchwylwyr
drysau ac yn darparu goruchwyliaeth drws rhwng yr adegau hynny ac yn ôl
yr angen sy'n ofynnol gan yr asesiad risg.
- Bydd Goruchwylwyr Drysau yn arddangos eu
trwydded SIA ar ffurf band braich llachar tra byddant ar ddyletswydd.
- Bydd cofrestr ddyddiol o bersonél diogelwch
yn cael ei chynnal. Bydd y gofrestr yn dangos enw, cyfeiriad a rhif
trwydded pob goruchwyliwr drws, a'r dyddiadau a'r amseroedd y maent yn
gweithredu. Rhaid bod cofrestr ar gael i'w harchwilio gan yr heddlu a
swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Lleol
n. Rhaid i'r llyfr cofnodi achosion gael ei gadw yn
y fangre sy'n dangos manylion dyddiad ac amser unrhyw ymosodiad, anaf, damwain,
ymyriad gan staff neu achos o droi allan, yn ogystal â manylion aelodau'r staff
sy'n rhan o'r broses, natur y digwyddiad a'r cam gweithredu/canlyniad. Rhaid
cadw'r llyfr.
o. Rhaid darparu arwyddion amlwg ym mhob rhan o'r
fangre ac ym mhob allanfa yn gofyn i bobl adael mewn modd tawel a threfnus er
mwyn lleihau'r effaith ar breswylwyr lleol.