Cofnodion:
Gwelodd yr Aelodau’ Protocolau
Siarad Cyhoeddus drafft a sefydlwyd fel rhan o gynllun cyfranogiad cyhoeddus
ehangach.
Yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, nodwyd mai un o ofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
Cymru 2021 oedd bod yn rhaid i awdurdodau lleol sefydlu ffyrdd o hyrwyddo a
hwyluso prosesau y gall pobl leol eu defnyddio i gyflwyno sylwadau i'r prif
gyngor ynghylch penderfyniad cyn ac ar ôl iddo gael ei wneud; roedd gan bob
cyngor y disgresiwn yn y ffordd y byddai hyn yn cael ei ddatblygu.
Yn dilyn cyflwyno'r Ddeddf,
dywedwyd bod swyddogion wedi bod yn ymchwilio i drefniadau democrataidd y
cynghorau a chyfranogiad cyhoeddus; roedd gwahanol elfennau a oedd yn mynd i
fod yn rhan o'r gwaith hwn, er mwyn cynnwys y cyhoedd yn fwy yn y broses gwneud
penderfyniadau. Hysbyswyd yr Aelodau mai cynnig cyntaf y gwaith hwn oedd
cyflwyno siarad cyhoeddus mewn gwahanol gyfarfodydd cyngor; datblygwyd Protocol
Siarad Cyhoeddus drafft (y manylir arno yn Atodiad 1 i'r adroddiad a
gylchredwyd) a oedd yn nodi'r rheolau a'r rheoliadau.
Rhoddodd swyddogion ragor o
fanylion ynghylch y broses a'r protocol. Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai
cyfnod o amser yn cael ei ddarparu i aelodau'r cyhoedd ofyn cwestiynau ar yr
eitemau a restrir ar yr agenda ar ddechrau pob cyfarfod; byddai hyn yn
berthnasol i'r cyfarfodydd gweithredol lle gwneir penderfyniadau yn y lle
cyntaf, gan gynnwys y cyngor llawn, y Cabinet a Byrddau'r Cabinet. Ychwanegwyd
y bydd gan y cyhoedd fforwm lle byddant yn cyflwyno’u cwestiynau cyn y
cyfarfod, ac yna'n derbyn yr atebion yn ystod y cyfarfod. Esboniodd swyddogion
mai cynllun peilot oedd hwn, ac y byddai'r cynllun cyfranogiad cyhoeddus yn
cael ei ddatblygu dros amser; roedd hefyd angen ymgysylltu â'r cyhoedd i nodi'r
hyn a oedd yn gweithio a'r hyn nad oedd yn gweithio.
Hysbyswyd yr Aelodau fod gan y
Pwyllgor Cynllunio a'r Pwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo wahanol brotocolau a
rheoliadau, felly maent wedi’u heithrio o'r broses hon ar hyn o bryd.
Gofynnwyd a fyddai'r elfen
siarad cyhoeddus mewn cyfarfodydd yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgorau Craffu.
Cadarnhaodd swyddogion mai'r ffocws ar hyn o bryd oedd cyflwyno'r cyfle i
aelodau'r cyhoedd ofyn cwestiynau yn y fforymau gwneud penderfyniadau, lle
byddai'r cwestiynau'n cael eu cyfeirio at Aelodau Bwrdd y Cabinet sy'n gwneud y
penderfyniadau; Rhoddodd y Pwyllgorau Craffu gyfle i Aelodau gwestiynu a chodi
materion ar bynciau penodol, felly cynigiwyd eu bod yn cael eu cadw ar wahân i
hyn a'u bod yn parhau i gael eu harwain a'u hysgogi gan Aelodau. Soniwyd y bydd
gwelliannau pellach yn cael eu gwneud wrth symud ymlaen gyda hyn, ac o
brofiadau, gallai fod angen newid elfennau amrywiol; fel cwestiynau sy'n cael
eu gofyn mewn Pwyllgorau Craffu er mwyn caniatáu i'r Aelodau Craffu glywed beth
oedd yn cael ei ofyn. Esboniodd swyddogion y bydd llif cyfathrebu ag Aelodau'r
Pwyllgor Craffu, gan y byddant yn cael gwybod am unrhyw gwestiynau a gyflwynwyd
gan y cyhoedd, i'w gofyn yng nghyfarfod y Cabinet/Bwrdd y Cabinet; Yna gallai'r
Aelodau benderfynu a oeddent am glywed yr ateb i'r cwestiynau, ac os felly,
gallent ofyn am gael bod yn bresennol yng nghyfarfod y Cabinet/Bwrdd y Cabinet.
Mynegodd yr Aelodau eu
pryderon gyda'r cymal canlynol a nodir yn y protocolau drafft; 'bydd nifer y
cwestiynau y gall unigolyn eu gofyn mewn blwyddyn ddinesig yn cael eu cyfyngu i
ddau, gydag unrhyw gwestiynau pellach yn cael eu derbyn yn ôl disgresiwn y
Cadeirydd yn unig'. Tynnwyd sylw at y ffaith y gallai cyfyngu'r cyhoedd i ddau
gwestiwn y flwyddyn ddinesig atal cwestiynau da a theg rhag cael eu gofyn a
chyfyngu ar gyfranogiad cyhoeddus mewn cyfarfodydd.
Nodwyd bod swyddogion wedi
ymchwilio i'r ymagwedd yr oedd awdurdodau lleol eraill wedi'i mabwysiadu, a
chanfod bod y rhan fwyaf wedi gosod terfyn i 2/3 fesul person bob blwyddyn
ddinesig. Hysbyswyd yr Aelodau fod y cyngor am annog cwestiynau gan y cyhoedd,
fodd bynnag roeddent yn ochelgar ynghylch y ffaith y gallai’r broses gael ei
llesteirio gan fathau tebyg o gwestiynau’n cael eu gofyn gan yr un unigolion;
Roedd swyddogion wedi ceisio adlewyrchu hyn yn y protocol. Tynnwyd sylw at y
ffaith, pe bai Aelodau o'r farn gyfunol nad oeddent am gynnwys terfyn ar faint
o weithiau y gall person ddod i gyfarfod a gofyn cwestiwn, yna gallent
weithredu hyn.
Esboniwyd y byddai
gweithredu'r protocol siarad cyhoeddus yn y lle cyntaf yn gynllun peilot a
fyddai'n cael ei adolygu mewn 12 mis i sicrhau ei fod yn parhau'n briodol neu i
weld a oedd angen diwygiadau i sicrhau bod y nodau cyffredinol o roi cyfle i'r
cyhoedd godi cwestiynau gydag aelodau yn cael eu cyflawni. Soniodd swyddogion y
gellid newid yr adolygiad i 6 mis os oes angen; ac y gellid ystyried unrhyw
fformatau amrywiol eraill.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn
â geiriad y cymal. Gwnaed awgrymiadau amrywiol, a gofynnwyd a ellid treialu'r
protocol heb gyfyngiad ar nifer y cwestiynau y gellid eu gofyn, er mwyn gosod y
cywair cywir i'r cyhoedd; fodd bynnag, pe bai problemau rheolaidd yn codi,
byddai hyn yn cael ei adolygu ac yn dychwelyd at y cymal gwreiddiol o bosib.
Soniwyd y gallai elfennau eraill o'r protocol, fel y terfyn amser a bennwyd ar
gyfer cwestiynau gan y cyhoedd, helpu i atal y pryderon a drafodwyd o ran
peidio â chael terfyn.
O ran cadeiryddion cyfarfodydd
Bwrdd y Cabinet, cadarnhawyd y cytunwyd ar y rôl fel arfer ar ddechrau pob
cyfarfod, a byddai'n ddibynnol ar bwy o'r Cabinet a oedd yn bresennol; os oedd
cwestiynau'n cael eu derbyn gan y cyhoedd ar gyfer cyfarfod penodol, bydd angen
i swyddogion ofyn pwy fydd yn ei gadeirio cyn y cyfarfod.
Cododd yr Aelodau eu pryderon
ynglŷn ag Aelodau'r Cabinet yn penderfynu pa gwestiynau y dylid neu na
ddylid eu gofyn gan y cyhoedd. Pwysleisiodd swyddogion bwysigrwydd meini prawf
diffiniedig, a dywedodd y byddai'r meini prawf ynghylch a allai rhywun wrthod
cwestiwn yn gyfyngedig; roedd angen tynnu sylw at ba bryd y gellir neu na ellir
defnyddio disgresiwn cadeiryddion. Cadarnhawyd y byddai Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd yn cynnwys cymal i adlewyrchu hyn yn y protocol.
Cytunwyd y byddai Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yn diwygio geiriad y cymal i adlewyrchu
barn y Pwyllgor, cyn i'r adroddiad gael ei gyflwyno i'r cyngor llawn i'w
ystyried; ni fyddai'r geiriad yn cyfyngu ar nifer y cwestiynau y gellid eu
gofyn, fodd bynnag byddai'n rhoi elfen o reolaeth i'r cadeiryddion pe na bai'r
cwestiynau'n cyfrannu at effeithiolrwydd y cyfarfod.
Ar ôl ystyried yr adroddiad a
gyflwynwyd, a'r cytundeb i ddiwygio rhannau o'r Protocol Siarad Cyhoeddus i
adlewyrchu barn y Pwyllgorau, penderfynwyd:
(a) Bod aelodau Pwyllgor y
Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried y protocol drafft ar gyfer siarad
cyhoeddus yng nghyfarfodydd y cyngor gan argymell unrhyw newidiadau sy'n
briodol yn eu barn hwy; a
(b) Rhoi awdurdod dirprwyedig
i Gadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i gytuno ar y drafft terfynol
i'w gymeradwyo i'r cyngor ar ran Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ategol: