Cofnodion:
Rhoddwyd adroddiad i'r
Pwyllgor ar ganlyniadau asesiad o ddigonolrwydd adnoddau yn y Tîm Gwasanaethau
Democrataidd.
Yn dilyn penodiad llwyddiannus
Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd i swydd Pennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd, roedd angen ystyried gallu a strwythur gweithredol y Tîm
Gwasanaethau Democrataidd; roedd rôl Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn
cynnwys canolbwyntio mwy ar agweddau strategol y swyddogaeth gan gynnwys
gweithredu'r gofynion o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a pharatoi ar gyfer
Sefydlu Aelodau 2022.
Roedd Atodiad 1 yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn manylu ar strwythur presennol y Tîm Gwasanaethau Democrataidd,
ac roedd Atodiad 2 yn manylu ar y strwythur arfaethedig. Cynigiwyd cyflwyno dau
Uwch-swyddog Gwasanaethau Democrataidd ar Radd 9 i'r Tîm; byddai'r swyddi hyn
yn cael eu clustnodi i aelodau presennol y Tîm Gwasanaethau Democrataidd o ystyried
lefel yr arbenigedd a'r wybodaeth y bydd angen iddynt feddu arnynt). Tynnwyd
sylw at y ffaith y byddent yn gyfrifol am oruchwylio Cefnogaeth Craffu a Rheoli
Prosiectau, a Gweinyddiaeth y Pwyllgorau a Blaenraglenni Gwaith yn eu tro.
Ychwanegodd swyddogion y bwriedir hefyd recriwtio i swydd wag Swyddog
Gwasanaethau Democrataidd Gradd 7.
Yn dilyn trafodaeth, roedd yr
Aelodau'n cefnogi'r argymhellion a gynhwyswyd yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: