Cofnodion:
PENDERFYNWYD:1. Bydd y cyngor yn ymrwymo i Siarter MND y
Cymdeithas Clefyd Niwronau Echddygol ac yn ymrwymo i hyrwyddo’i nodau a'i
ddyheadau yng ngwaith y cyngor.
2. Bod y cyngor yn credu'r canlynol:
·
Mae gan bobl ag MND yr hawl i
gael diagnosis a gwybodaeth gynnar.
·
Mae gan bobl ag MND yr hawl i
gael gofal a thriniaethau o safon.
·
Mae gan bobl ag MND yr hawl i
gael eu trin fel unigolion a chydag urddas a pharch.
·
Mae gan bobl ag MND yr hawl i
wneud y mwyaf o ansawdd eu bywyd.
·
Mae gan ofalwyr pobl ag MND yr
hawl i gael eu gwerthfawrogi, eu parchu, eu clywed a'u cefnogi'n dda.