Cofnodion:
Rhoddodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd.
PENDERFYNWYD: 1. Cymeradwyo'r
newidiadau i gyfansoddiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o fis Mai 2022 i
gynnwys 8 aelod etholedig a 4 person lleyg, gyda chadeirydd lleyg yn cael ei
benodi gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
2. Cymeradwyo Mrs Joanna Jenkins fel
person lleyg y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o fis Mai 2022 am gyfnod
pellach o bum (5) mlynedd.
3. Cymeradwyo'r ymarfer recriwtio i
benodi 3 pherson lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
4. Cymeradwyo'r meini prawf
cymhwysedd, y ffurflen gais a'r hysbyseb fel y nodir yn Atodiad 1, 2 a 3 o'r
adroddiad hwn i'w defnyddio yn y broses recriwtio.
5. Sefydlu panel dethol fel y nodir
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
6. Bod adroddiad yn cael ei ddwyn yn ôl i'r
cyngor ar ôl
i'r broses ddethol ddod i ben er
mwyn i'r
aelodau ystyried barn y Panel
Dethol ac
ystyried penodi lleygwyr.
Dogfennau ategol: