Cofnodion:
Roedd y Maer yn falch o hysbysu'r cyngor fod Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi derbyn nifer o enwebiadau yn y
gwobrau APSE diweddar:
• Cyngor Cyffredinol Gorau'r Flwyddyn
• Y Fenter Gweithio ar y Cyd Orau gyda'r sector cyhoeddus a'r trydydd
sector
• Tîm Gwasanaeth Gorau – Gwasanaeth Rheoli Cyfleusterau a Glanhau Adeiladau
• Tîm Gwasanaeth Gorau – Gwasanaethau Mynwentydd ac
Amlosgfeydd
• Menter Gweithio mewn Partneriaeth
Gyhoeddus/Preifat Orau
Roedd y cyngor hefyd wedi ennill y Fenter Gweithio
mewn Partneriaeth Gyhoeddus/Preifat Orau ar gyfer cynllun arloesol y cyngor –
sy'n canolbwyntio ar gyfeiriadur ar-lein – Prynu'n Lleol CNPT. Diolchodd y Maer
i'r holl staff am y gwaith y maent yn ei wneud dros Gastell-nedd Port Talbot
a'r staff a enwebwyd.
Llongyfarchodd y Maer Harri Jenkins, a enillodd
fedal efydd yn y ras 100 metr yng Ngemau Paralympaidd Tokyo, yn ogystal â Joe
Brier a Daniel Jervis a ddewiswyd i gynrychioli Cymru, Prydain Fawr yng Ngemau
Olympaidd Tokyo.
Llongyfarchodd y cyngor hefyd y Cynghorydd Saif
Rahaman a'i deulu ar enedigaeth ei fab.