Agenda item

Cynigion prosiect a gyflwynwyd i Gronfa Gymunedol yr Aelodau

Cofnodion:

Ailddatganodd y Cynghorydd L Jones ei budd ar y pwynt hwn a gadawodd y cyfarfod.  Penodwyd y Cynghorydd P Rees yn Gadeirydd ar gyfer yr eitem hon yn unig.

 

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Sgrinio Effaith Integredig, cymeradwyir y canlynol:

 

1.Cyflenwi pâr o byst gôl 24' x 8' newydd gyda rhwydi i Glwb Pêl-droed Blaendulais Onllwyn. Gwerth y prosiect yw £3,080.00.  Byddai'r Cynghorydd S Hunt yn cyfrannu £2,000 o'i ddyraniad o Gronfa Gymunedol yr Aelodau gyda'r £1,080 sy'n weddill yn cael ei ariannu o gronfa ariannol wrth gefn y Clwb.

 

2.Prynu pyst goliau annibynnol 12' x 6' rhydd-sefyll, peli hyfforddi, bagiau, bibiau, conau, citiau cymorth cyntaf a goliau codi'n gyflym ar gyfer Adran Iau Clwb Pêl-droed Tonna.  Byddai cyfanswm y gost sef £1,511.98 yn cael ei ariannu drwy ddyraniad y Cynghorydd L Jones o Gronfa Gymunedol yr Aelodau.

 

3.      Prynu a gosod llwyfan symudol gyda goleuadau, systemau Clyweledol a Sain yn y Brif Neuadd yn YGG Pontardawe.  Mae'r prosiect yn werth £24,600.  Byddai'r Cynghorydd L Purcell yn cyfrannu £9,600 tuag at gostau'r prosiect o'i dyraniad hithau o Gronfa Gymunedol yr Aelodau.  Byddai'r £15,000 sy'n weddill yn cael ei ariannu'n gyfatebol o Gronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt Mynydd y Betws a chyfraniadau gan y Gymdeithas Rhieni, Athrawon a Chyfeillion a chyllideb ddirprwyedig yr ysgol.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Cytuno ar y ceisiadau am arian a dderbyniwyd dan Gronfa Gymunedol yr Aelodau.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: