Agenda item

Prynu System Gyfarfod Hybrid ac Adnewyddu Siambr y Cyngor

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Sgrinio Integredig:

 

1.Rhoddir cymeradwyaeth i uwchraddio Siambr y Cyngor fel y nodir ym mharagraff 18 o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

2.Rhoddir cymeradwyaeth i ymrwymo i gontract gyda Public-I Group Limited at ddibenion prynu a gosod system gyfarfod hybrid fel y nodir ym mharagraff 20 o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

3.      Caiff astudiaeth ddichonoldeb ei sefydlu i ystyried lleoliadau amgen y gellid eu haddasu o fewn Adeiladau Dinesig fel mannau lle gellid cynnal cyfarfodydd hybrid.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.

 

Dogfennau ategol: