Cofnodion:
Nododd yr aelodau y byddai’r cais hwn am ollyngiad,
pe bai’n cael ei ganiatáu, yn rhedeg ar gyfer gweddill y cyngor etholedig hwn,
tan gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Safonau yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y cyngor yn
2022.
PENDERFYNWYD:
y dylid caniatáu gollyngiad i'r Cynghorydd Nigel Hunt siarad ond nid i
bleidleisio ar yr holl faterion sy'n ymwneud â chanol tref Port Talbot, yn
enwedig mewn perthynas â Chanolfan Siopa Aberafan, amodau manwerthu a
datblygiadau yng nghanol tref Port Talbot, fel y nodwyd ym mharagraff 8 yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
Dogfennau ategol: