Agenda item

Adroddiad Grwp Tasg a Gorffen Adolygu'r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Rhoddwyd adroddiad i'r aelodau a oedd yn amlinellu canlyniadau Grŵp Tasg a Gorffen Adolygu'r Cyfansoddiad. Ystyriodd yr adolygiad y gofynion cyfreithiol a hefyd yr elfennau ymarferol yr oedd yr aelodau am eu gweld fel rhan o'r cyfansoddiad.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau mai'r cyngor llawn sy'n gyfrifol am wneud penderfyniad terfynol ar ddiwygiadau cyfansoddiadol. 

 

Holodd yr aelodau am roi rhai o'r diwygiadau cyfansoddiadol ar waith. Dywedodd Mr Griffiths, os caiff y diwygiadau eu cadarnhau gan y cyngor llawn, mai ei fwriad yw ysgrifennu at bob Cynghorydd gan roi copi iddynt o'r Cyfansoddiad diwygiedig ac amlinellu'r newidiadau allweddol a wnaed.

 

Cyfeiriodd yr aelodau'n benodol at berthnasau swyddogion ac aelodau. Cadarnhawyd y bydd seminar aelodau ar yr eitem hon cyn bo hir a bydd hefyd yn cael ei gynnwys yn rhaglen sefydlu aelodau 2022.

 

Yn dilyn trafodaeth, roedd yr aelodau'n cefnogi'r argymhellion yn yr adroddiad i'w roi gerbron y cyngor llawn i'w ystyried.

 

 

Dogfennau ategol: