Cofnodion:
Penderfyniad:
Gan roi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad
Effaith Integredig:
1. Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r
Pennaeth Eiddo ac Adfywio gyflwyno cais ffurfiol ar sail gwybodaeth a gynhwysir
yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd ac os yw'n llwyddiannus, cwblhau’r
broses o brynu'r tir yn gyfreithlon fel rhydd-ddaliad mewn ymgynghoriad â
Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Bydd prynu’r tir fel rhydd-ddaliad yn sicrhau incwm
buddsoddi rhent parhaus a hefyd yn diogelu perchnogaeth o'i safleoedd
gweithredol yn y dyfodol a chyfleoedd i ddatblygu ac adfywio'r tir yn y
dyfodol.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Gyda chytundeb y Cadeirydd Craffu perthnasol, caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith (ac felly nid yw'n amodol ar yr
weithdrefn galw i mewn o 3 diwrnod).