Cofnodion:
Penderfyniadau:
1. Cymeradwyo'r
meini prawf canlynol ar gyfer gwahodd ceisiadau am arian a lywodraethir gan
Gynllun Grantiau'r Trydydd Sector yn 2022-23:
a. Gwahodd ceisiadau am 12 mis o
gyllid neu lai a ddylai canolbwyntio'n benodol ar weithgareddau a fydd yn helpu
i ddatblygu gallu/cydweithio cymunedol ymhellach ac adeiladu ar y camau
gweithredu cymunedol sydd wedi cefnogi'r ymateb i bandemig COVID-19.
b. Dylid gofyn i'r sefydliadau
hynny sy'n derbyn cytundebau grant aml-flwyddyn nodi'n glir sut y maent yn
bwriadu cefnogi datblygiadau pellach sy'n adeiladu gallu cymunedol.
2.Caiff adolygiad mwy sylfaenol o'r cynllun ei gynnal yn gynnar yn 2022-23.
Rheswm dros y penderfyniadau:
1.I sicrhau bod penderfyniadau cyllid a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol
2022-23 mewn perthynas â grantiau a ddyfernir dan Gynllun Grantiau'r Trydydd
Sector yn cyd-fynd â blaenoriaethau cyffredinol y cyngor ac yn adlewyrchu
amgylchiadau penodol y sefyllfa ymateb brys i COVID-19.
2.Sicrhau bod cyfle ar ddechrau 2022-23 i ddiwygio'r cynllun i adlewyrchu'r
sefyllfa bryd hynny, gan sicrhau bod y cynllun yn parhau i fod yn berthnasol
wrth gefnogi blaenoriaethau'r cyngor.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Gyda chytundeb y Cadeirydd Craffu perthnasol, caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith (ac felly nid yw'n amodol ar yr
weithdrefn galw i mewn o 3 diwrnod).
Dogfennau ategol: