Development
of a Global Centre of Rail Excellence, comprising of two test tracks of loop
configuration being an electrified high speed rolling stock test track of 6.9km
in length and an electrified low speed infrastructure test track of 4.5km, with
overhead line equipment (OLE) and dual platform station test environment;
together with operations and control offices (including staff accommodation and
welfare), shunter cabins (2 no.), research and development, education and
training, rolling stock storage sidings and maintenance/cleaning/decommissioning
facilities; and associated, drainage, internal vehicular accesses, branch line
rail connection, staff and visitor car parking, lighting, electrical
infrastructure (including substations and lineside shore supplies and
transformers), fencing (perimeter security, acoustic and stock proof), land
reformation and hard and soft landscaping, together with demolition of existing
buildings/structures (cross-boundary application affecting land within Neath
Port Talbot and Powys County Council administrative boundaries) - see Powys CC
Application ref. 21/0559/OUT) at Land at and surrounding the Nant Helen Open
Cast Coal Site, Powys, and Onllwyn Distribution Centre, Neath Port Talbot.
Cofnodion:
Gwnaeth
swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (Datblygiad Canolfan
Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd) a fydd yn cynnwys dau drac prawf
cyfluniad dolen a fydd yn drac profi wagenni cyflymder uchel wedi'i drydanu,
6.9km o hyd, a thrac profi isadeiledd cyflymder isel wedi'i drydanu o 4.5km,
gyda chyfarpar gwifren uwchben (OLE) ac amgylchedd profi gorsaf platfform deuol;
ynghyd â swyddfeydd gweithrediadau a rheoli (gan gynnwys llety a lles staff), 2
gaban siyntwyr, ymchwil a datblygu, addysg a hyfforddiant, cilffyrdd storio
wagenni a chyfleusterau cynnal a chadw/glanhau/datgomisynu; a draeniad
cysylltiedig, mynedfeydd mewnol i gerbydau, cysylltiad rheilffordd llinell
leol, parcio i staff ac ymwelwyr, goleuadau, isadeiledd trydanol (gan gynnwys
is-orsafoedd a chyflenwadau ategion a newidyddion ymyl y llinell, ffensys
(diogeledd y perimedr, gwrth-acwstig ac i rwystro anifeiliaid), gwella'r tir a
thirlunio caled a meddal, ynghyd â dymchwel adeiladau/adeileddau sy'n bodoli
(cais traws-ffiniol sy'n effeithio ar dir o fewn ffiniau gweinyddol
Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Powys) gweler Cais CS Powys, cyfeirnod
21/0559/OUT) ar Dir yn Safle Glo Brig Nant Helen, Powys ac o'i gwmpas a
Chanolfan Ddosbarthu Onllwyn, Castell-nedd Port Talbot.) fel y manylir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd yr
Aelod Ward lleol yn bresennol i wneud ei sylwadau yn ogystal â'r asiant a'r
ymgeisydd, y siaradodd y ddau ohonynt ynghylch y cais.
PENDERFYNWYD: |
Yn unol
ag argymhellion y swyddogion, a’r amodau a nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, y dylid cymeradwyo Cais Rhif P2021/0327. |
Dogfennau ategol: