Cofnodion:
Cynhaliwyd yr
archwiliad gan Gyngor Sir Penfro. Canlyniad yr archwiliad oedd gradd sicrwydd
sylweddol. Cafwyd pum argymhelliad o'r adroddiad archwilio.
Mae'r
argymhelliad cyntaf yn ymwneud â chytundebau ffurfiol. Nodwyd bod y pedwar
awdurdod wedi llofnodi Cytundeb y Cyd-bwyllgor. Nid yw Bwrdd Iechyd Bae
Abertawe a Phrifysgol Abertawe wedi ymrwymo'n ffurfiol i'r Fargen Ddinesig
drwy'r cytundeb hwn. Er nad oes unrhyw bryderon am eu hymrwymiad, mae angen ei
ffurfioli.
Roedd yr ail
argymhelliad yn ymwneud â strategaeth gwrth-dwyll a gwrth-lygru. Mae'r eitemau
hyn wedi'u drafftio ond bydd angen iddynt gael eu cymeradwyo gan Fwrdd y
Rhaglen a'r Cyd-bwyllgor.
Mae'r trydydd
argymhelliad yn ymwneud â'r radd risg gweddilliol. Mae hyn bellach yn rhan o'r
Gofrestr Risg Portffolio ac mae wedi'i rannu â phob prosiect a rhaglen.
Roedd y pedwerydd
argymhelliad yn ymwneud ag adrodd ar gyflawniadau canlyniadau, allbynnau ac
effeithiau. Mae hyn yn sicrhau bod targedau perfformiad yn cael eu monitro a'u
bod yn cyflawni'r hyn y maent yn bwriadu ei wneud ar lefel prosiectau a
phortffolio ac yn dangos eu bod yn ychwanegu gwerth. Bydd rhan o'r adroddiad
hefyd yn cynnwys buddion cymunedol.
Mae'r pumed
argymhelliad yn ymwneud â chyllid y sector preifat a sicrhau bod y risg yn cael
ei lliniaru mewn perthynas â defnyddio arian o'r sector dros y 10-15 mlynedd
nesaf.
Holodd yr aelodau
am yr amserlen ar gyfer llofnodi'r cytundebau ffurfiol gan Fwrdd Iechyd Bae
Abertawe a Phrifysgol Abertawe. Esboniwyd bod y diweddariad i'r Cytundeb
Gweithio ar y Cyd yn rhan o ddiweddariad ehangach. Er mwyn i'r diweddariad gael
ei roi ar waith, mae angen iddo gael ei gymeradwyo gan Fwrdd y Rhaglen ac wedyn
gan y Cyd-bwyllgor.
Holodd yr aelodau
a fyddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ar y pum argymhelliad yn cael ei
hadrodd yn ôl i'r Pwyllgor Craffu, a beth fyddai'r dyddiad cau ar gyfer yr
adroddiad hwn. Dywedwyd wrth y rhain y byddai diweddariad yn cael ei ddarparu
ym mis Medi ar gynnydd o ran argymhellion yr Archwiliad Mewnol.
Holodd yr aelodau
am y rheolaeth ariannol a rhyddhau'r £54 miliwn i'r rhanbarthau. Er mwyn
rhyddhau cyllid, mae angen sefydlu cytundeb ariannu rhwng y cyrff perthnasol.
Mae hyn yn sicrhau y gellir dwyn y rhai sy'n gyfrifol am gyflawni'r prosiect i
gyfrif. Mae rhai o'r cytundebau ariannu wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl
i'w rhoi ar waith, ond ar hyn o bryd mae llif o gyllid.
Dywedodd
swyddogion y bydd Llywodraeth y DU yn rhyddhau ei chyllid dros 10 mlynedd ac
mae Llywodraeth Cymru yn rhyddhau ei chyllid dros 15 mlynedd. Mae Llywodraeth
Cymru wedi cytuno i roi'r cyllid yn gynnar dros y 10 mlynedd gyntaf. Mae hyn i
bob pwrpas yn golygu na fydd yn rhaid i'r Fargen Ddinesig fenthyca cymaint o
arian. Fodd bynnag, nid yw'r union symiau wedi'u penderfynu eto.
Holodd yr aelodau
beth sy'n digwydd os na fydd buddsoddiad y sector preifat yn cael ei wireddu.
Cydnabuwyd bod cynlluniau wrth gefn wedi'u cynnwys ym mhob prosiect a bod y
pedwar awdurdod wedi ymrwymo i ddarparu cyllid priodol. Fodd bynnag, pe na
bai'r buddsoddiad preifat llawn yn cael ei wireddu, yna byddai'r prosiect yn
methu. Mae gweithdrefn rheoli newid ar waith a fyddai'n helpu i geisio lliniaru
unrhyw risgiau y gellir eu rhagweld.
Eglurodd Mr
Burnes sut y cyflwynir y ffigurau gwireddu buddion. Fodd bynnag, cydnabuwyd y
gall rhai o'r ffigurau gymryd ychydig flynyddoedd i'w gwireddu'n llawn. Cânt eu
hadrodd yn rheolaidd.
Adolygir achosion
busnes i sicrhau eu bod yn addas i'r diben o hyd a bod costau'n berthnasol ac
yn briodol o hyd.
Dogfennau ategol: