Agenda item

Achos Busnes Sgiliau a Thalent

Cofnodion:

Daeth arweinydd y prosiect ar gyfer y Rhaglen Sgiliau a Thalent, Jane Lewis, i'r cyfarfod a rhoddodd drosolwg o'r achos busnes.

Amlinellodd Ms Lewis gylch gwaith y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol. Mae'n sefydliad annibynnol a ariennir yn llwyr gan Lywodraeth Cymru i nodi anghenion sgiliau a bylchau sgiliau yn y rhanbarth. Nod y rhaglen yw creu cyfleoedd newydd a chynaliadwy a fydd yn cynhyrchu ffyniant i unigolion a busnesau yn Rhanbarth Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Cyflawnir hyn drwy ddatblygu llwybr sgiliau i bawb a chynllun peilot o ddarparu sgiliau lefel uchel yn ôl y galw a gwella sgiliau ar draws y pum thema allweddol. Y pum maes allweddol yw adeiladu, digidol, gweithgynhyrchu clyfar, iechyd a lles ac ynni. Wrth i'r rhaglen ddatblygu, gellir nodi meysydd newydd posib. Bydd y rhaglen hon yn dwyn ynghyd yr holl sgiliau y mae eu hangen ar draws portffolio'r Fargen Ddinesig ac yn mwyafu'r economi. Ar hyn o bryd nid oes gan y rhanbarth y sgiliau y mae eu hangen ar fuddsoddwyr o fewn y fargen. Bydd y rhaglen yn galluogi datblygu'r sgiliau ac yn caniatáu i bobl hefyd ennill cyflogau uwch yn y rhanbarth. Er y cydnabyddir na fydd y rhaglen yn datrys pob mater, bydd yn helpu i leihau'r bwlch rhwng unigolion heb unrhyw sgiliau a'r rheini sydd â lefelau sgiliau uwch.

 

Nod y rhaglen yw darparu o leiaf 2,200 o sgiliau ychwanegol a chefnogi datblygiad tua 14,000 o unigolion sydd â sgiliau lefel uwch (2-8) mewn 10 mlynedd. Creu 3,000 o gyfleoedd prentisiaeth newydd, i gynnwys lefel 3 hyd at brentisiaethau ar lefel radd. Gweithio gydag ysgolion a'r cwricwlwm newydd i ddatblygu llwybr clir o addysg yn yr ysgol a chynyddu nifer y disgyblion sy'n dilyn y pynciau STEM. Creu o leiaf ddwy Ganolfan Ragoriaeth o fewn sectorau penodol er mwyn datblygu'r rhanbarth fel yr "ardal orau" ar gyfer datblygiad a sgiliau. Mae gwella sgiliau'n allweddol i sicrhau y gellir cyflawni Prosiectau'r Fargen Ddinesig.

 

Er mwyn sicrhau y gellir cyflawni nodau'r Rhaglen, cynhelir dadansoddiad o'r bwlch sgiliau i nodi hyfforddiant ar gyfer sgiliau newydd nad yw'n cael ei ddarparu yn y rhanbarth ar hyn o bryd. Bydd y Rhaglen yn gweithio'n agos gyda'r prosiectau i nodi'r sgiliau y mae eu hangen a fframweithiau newydd y bydd angen eu cyflwyno.

 

Nododd Ms Lewis y risgiau sy'n gysylltiedig â'r prosiect. Os bydd oedi cyn cymeradwyo'r rhaglen, gallai hyn arwain at oedi yn yr amserlen, a fyddai'n effeithio ar ddarparu hyfforddiant. Yna byddai'r gweithlu'n dod o'r tu allan i'r rhanbarth.

 

Gwerth y rhaglen yw £30 miliwn, gydag elfennau amrywiol o arian cyfatebol o fewn hyn. £10miliwn gan y Fargen Ddinesig a £4 miliwn o gyllid gan y sector preifat.

 

Mae'r Achos Busnes yn symud drwy'r broses gymeradwyo ar hyn o bryd. Mae'r pedwar awdurdod lleol wedi'i gymeradwyo. Cyflwynir yr Achos Busnes i'r Cydbwyllgor ar 29 Gorffennaf. Mae swydd Rheolwr y Rhaglen yn cael ei phenodi ar sail risg. Cyflwynir yr Achos Busnes i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ddiwedd mis Gorffennaf.

 

Cadarnhaodd Ms Lewis fod y bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag fe'i hariannir i wneud darn o waith, sy'n cyflwyno argymhellion iddyn nhw. Mae'r bartneriaeth yn gweithio i'r pedwar awdurdod lleol sy'n rhan o Dde-orllewin Cymru. Nod y bartneriaeth yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn deall beth yw'r materion lleol sy'n ymwneud â sgiliau.

Mae gan y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol 9 grŵp clwstwr a arweinir gan y diwydiant. Arweinir Bwrdd yr PDSR gan y sector preifat. Dywedwyd wrth yr aelodau eu bod yn gweithio gyda thros 2000 o sefydliadau i ddeall beth yw'r materion pan fyddant yn casglu gwybodaeth. Beth yw'r sgiliau y mae'r busnesau hyn yn eu nodi y mae angen i'r PDSR dynnu sylw Llywodraeth Cymru atynt ar gyfer cyllid yn y dyfodol ac ar gyfer cyllid ar unwaith?

Pan oedd yr Achos Busnes yn cael ei baratoi, ymgynghorwyd â dau Brosiect y Fargen Ddinesig arall y mae ganddynt raglenni Sgiliau a Thalent, sef Belfast a Chaeredin. Gwnaethant helpu i nodi meysydd allweddol nad oeddent wedi'u cynnwys yn yr achos busnes. Mae'r PDSR hefyd yn gweithio'n rheolaidd gyda'r tair partneriaeth PDSR arall yng Nghymru.

 

Cadarnhaodd Ms Lewis fod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar rai diwydiannau, a nododd yr effeithiwyd ar ddiwydiant twristiaeth a lletygarwch i raddau helaeth. Mae'r PDSR wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r rhai yr effeithiwyd arnynt ac yn ceisio eu cydweddu â chyfleoedd cyflogaeth amgen.

Holodd Aelodau sut y byddai gwelliannau i'r ardal yn cael eu mesur ac a roddir diweddariadau rheolaidd i'r Pwyllgor Craffu. Dywedodd Ms Lewis y rhoddir adroddiadau rheolaidd i'r Cyd-bwyllgor Craffu a'r Cyd-bwyllgor.

 

Holodd yr aelodau ym mha fformat y digwyddodd yr ymgysylltiad â'r sector preifat a sut y mesurwyd y bwlch sgiliau. Dywedodd Ms Lewis y cafwyd ymgysylltiad ffurfiol drwy'r 9 grŵp clwstwr. Cynhaliwyd hefyd fforymau a oedd yn benodol i'r diwydiant h.y. peirianneg, er mwyn caniatáu i fwy o fanylion gael eu casglu o'r sectorau hynny. Cynhelir arolygon rheolaidd gyda'r busnesau i lywio'r cynllun cyflogaeth a sgiliau sy'n cael ei baratoi ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae'r PDSR wedi bod yn adrodd yn chwarterol i Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig, felly mae'n hanfodol bod gan y diwydiannau lais i fynegi lle mae'r pandemig wedi effeithio arnynt a lle mae angen gwella sgiliau.

 

Trafododd yr aelodau'r adolygiad Gateway a gynhaliwyd a'r pedwar argymhelliad a amlinellwyd. Cydnabuwyd bod tri o'r argymhellion wedi'u bodloni'n llawn. Fodd bynnag, mae angen bodloni'r pedwerydd argymhelliad o hyd. Holodd yr aelodau pa gamau y mae angen eu cymryd i sicrhau bod y pedwerydd argymhelliad yn cael ei fodloni.

 

Holodd yr aelodau a fydd y rhanddeiliaid hefyd yn ymwneud â'r broses, gan gynnwys bod ar gael i gyfarfod â'r pwyllgor i siarad â nhw'n uniongyrchol am fod yn rhan o'r prosiect ac wrth i'r cerrig milltir allweddol gael eu cyflawni. Awgrymwyd y dylai’r pwyllgor siarad â'r Grŵp Datrys Sgiliau a fydd yn mesur effaith y prosiect a datblygiad sgiliau newydd o fewn y rhanbarth.

Diolchodd yr Aelodau i Jane Lewis am ddod i'r cyfarfod.

 

 

Dogfennau ategol: