Agenda item

Papur Gwaith ar y Cyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar Gwm Afan Uchaf

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.Caiff ymagwedd gydlynol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ei chymryd fel eu bod ar y cyd yn mynd ati o bosib i adleoli'r cyfleuster iechyd a gwneud gwelliannau i'r briffordd.

 

2.Caiff cyfarfod ar y cyd ei drefnu รข swyddogion Llywodraeth Cymru i archwilio'r potensial ar gyfer yr ymagwedd hon a buddsoddi.

 

3.Caiff y gweithgareddau ymgysylltu ar gyfer iechyd a phriffyrdd eu datblygu a'u cydweddu.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

I gefnogi ymagwedd gydlynol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Gyda chytundeb y Cadeirydd Craffu yn y cyfarfod. Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith ac felly nid yw'n destun y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Dogfennau ategol: