Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.Nodir
ymateb y cyngor i COVID-19 hyd yma.
2.Nodir y gwaith sy'n mynd rhagddo ar
hyn o bryd i gefnogi'r ymateb parhaus i COVID-19 a'r gwaith cynnar sy'n cael ei
wneud i baratoi'r ffordd ar gyfer adferiad tymor hwy.
3.Cymeradwyir y fframwaith a
amlinellir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd i lywio gwaith i adfer, ailosod ac
adnewyddu gwasanaethau a swyddogaethau'r cyngor a blaenoriaethau tymor hwy.
4.Cymeradwyir y cynllun ymgysylltu.
5.Mae'r ymgysylltu hwnnw'n digwydd
gyda'r Gymdeithas Llywodraeth Leol, gan brofi'r ymagwedd at gynllunio adferiad
gyda phanel cymheiriaid allanol, annibynnol.
Rheswm dros y penderfyniadau:
I sicrhau
bod ymagwedd strwythuredig at yr ymateb parhaus i COVID-19 a'r gwaith cynnar i
gynllunio llwybr at adferiad a bod yr ymagwedd yn darparu ar gyfer mewnbwn gan
ystod eang o randdeiliaid.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: