Agenda item

Adolygiad Archwilio Cymru o’r System Rheoli Perfformiad Corfforaethol (SRhPC)

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau ddiweddariad llafar a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod rhoi'r penderfyniad ar waith wedi'i hepgor o'r adroddiad.  Dylai'r adroddiad fod wedi datgan bod y penderfyniad yn amodol ar y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Penderfyniad:

 

Rhoddir cymeradwyaeth i ymgymryd â'r gwaith mewn perthynas â'r cyfleoedd i wella fel y nodir yn y cynllun gweithredu a geir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y penderfyniad:

 

I sicrhau bod gan y Cyngor drefniadau ar waith i gryfhau ei drefniadau cynllunio busnes, rheoli perfformiad a rheoli risg.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

 

Dogfennau ategol: